a mab William Davies, palaeontolegwr; ganwyd yn St Pancras, Llundain, 29 Rhagfyr 1837. Ar ôl treulio peth amser ar y môr aeth Davies yn gynorthwywr yn adran y mwnau yn yr Amgueddfa Brydeinig, 1858; o dan yr athro M. H. N. Story-Maskelyne daeth yn arbenigwr mewn mwnofyddiaeth, ac yr oedd yn arloesydd astudio creigiau gyda chymorth y chwyddwydr. Yn union yr un fath â'i dad ymddiddorai fwy yn ei waith swyddogol nag mewn cyhoeddi ffrwyth ei waith ymchwil, ond bu iddo anfon rhai cyfraniadau i'r Quarterly Journal of the Geological Society, y Geological Magazine, a'r Mineralogical Magazine; bu'n golygu 'r olaf o'r tri am lawer blwyddyn. Fe'i hetholwyd yn F.G.S. yn 1870 a dyfarnwyd ' Wollaston Fund ' y ' Geological Society ' iddo yn 1880. Bu farw 21 Rhagfyr 1892.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.