Ganwyd 13 Gorffennaf, 1814, yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, mab Thomas Davies. Fe'i dewiswyd yn un o swyddogion yr Amgueddfa Brydeinig yn 1843 a bu'n gweithio am gyfnod ar y casgliad mwnofyddol. Yn nes ymlaen rhoes ei sylw i ffosylau pysgod ac yna i ffosylau creaduriaid-ag-iddynt-asgwrn-cefn, a daeth mor gyfarwydd ag enghreifftiau o'r ail ddosbarth ac mor fedrus yn y gwaith o ailgreu modelau o greaduriaid diflanedig nes iddo gael ei ddewis i ofalu am y casgliad ffosylau arbennig hwnnw yn 1875.
Yn 1880 bu Davies yn helpu gyda'r gwaith o symud yr adran hanes naturiol o Bloomsbury i South Kensington. Y mae'r amgueddfa yn ddyledus am rai o'i hengreifftiau mwyaf pwysig (yn enwedig, pen mawr y mamoth a gafwyd yn Ilford) i'w fedr arbennig ef yn eu datgladdu a'u hailgreu o weddillion a ymddangosai'n ddibwys a diwerth. Yn rhinwedd ei swydd deuai i gyffyrddiad â'r arbenigwyr ar ffosylau'r 'vertebrata'; oherwydd ei fod wrth natur yn caru'r encilion ac yn ymddiddori mwy yn ei waith swyddogol nag mewn cyhoeddi ffrwyth ei waith gwyddid llai amdano y tu allan i furiau'r amgueddfa nag a ddylid. Cyhoeddwyd, serch hynny, 15 o nodiadau ac erthyglau o'i waith yn y Quarterly Jnl. of the Geological Society; yn eu plith y mae nodyn (1886) ar weddillion anifeiliaid a ddarganfuwyd yn ogofau Cae Gwyn yng Ngogledd Cymru, a chatalog (1874) o ffosylau a gafwyd mewn priddfeini gerllaw Ilford. Cydnabyddir yn rhai o gatalogiau ffosylau'r amgueddfa y cymorth a roes pan oeddid yn paratoi'r llyfrau hyn; ceir hefyd gyfeiriad ato gan L. G. de Koninck yn ei ddisgrifiad ef o ffosylau yn haenau glo Belgium. Davies oedd y cyntaf i gael bathodyn Murchison y Geological Society (yn 1873); bedair blynedd wedi hynny fe'i hetholwyd yn gymrawd-dros-oes o'r gymdeithas honno. Ymneilltuodd o waith yr amgueddfa yn 1887, eithr parhaodd i gywiro proflenni cyfrolau palaeontolegol y sefydliad. Bu farw 13 Chwefror 1891 yn Collier's End, Hertford. Mab iddo oedd Thomas Davies, arbenigwr mewn mwynofyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.