DAVIES, EVAN THOMAS ('Dyfrig '; 1847 - 1927), clerigwr ac eisteddfodwr

Enw: Evan Thomas Davies
Ffugenw: Dyfrig
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1927
Priod: Catherine Anne Davies (née Edwards)
Rhiant: Rachel Davies
Rhiant: Thomas Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yng Nghwmcefn, plwyf Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi, 20 Mehefin 1847, mab Thomas Davies a Rachel ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (B.A., 1869).

Ar ôl tymor byr fel athro yn Greenock, urddwyd ef yn ddiacon yn 1870 gan yr esgob Ollivant o Landaf, ac yn offeiriad yn 1871. Bu'n gurad yn Llanwynno, Ferndale, a'r Betws cyn cymryd gofal eglwys Dewi Sant yn Lerpwl yn 1875; dychwelodd i Gymru a bu'n ficer Aberdyfi (1882), Pwllheli (1890), a Llanfihangel Ysgeifiog ym Môn (1906-13). Bu'n ddeon gwlad Llŷn o 1891 hyd 1900, ac yn ganon trigiannol yn eglwys gadeiriol Bangor o 1906 ymlaen. Priododd, 1885, Catherine Anne Edwards o Aberdyfi.

Cofir amdano fel pregethwr grymus ac effeithiol, a darlithydd cymeradwy; bu'n aelod o Orsedd y Beirdd dan yr enw ' Dyfrig ', a chyhoeddodd Cydymaith y Cymro (1885), Pregethau, Erthyglau ac Areithiau, 1894 a Pregethau ac Anerchiadau (1899). Bu farw 31 Hydref 1927 ym Mangor, a'i gladdu ym mynwent Glanadda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.