Ganwyd 12 Hydref 1785 ger Llandyrnog. Ymunodd â'r seiat Wesleaidd wedi clywed Edward Jones, Bathafarn, yn 1800. Yn 1805, cyn bod yn llawn 20 oed, aeth yn weinidog i Fiwmares; o 1806 hyd 1813 gweinidogaethodd yn Sir Drefaldwyn a'r De, gan sefydlu achosion newydd lawer. Aeth i Lundain yn 1814, a chyn diwedd y flwyddyn gadawodd y wlad hon i fynd yn genhadwr (y cyntaf o'r Wesleaid Cymraeg) i Sierra Leone, lle y bu'n henadur, yn faer tref, ac yn ynad. Yn 1818 dychwelodd oddi yno oherwydd afiechyd, a bu'n gweinidogaethu ar gylchdaith Saesneg Penzance (1819-20) ac mewn amryw gylchdeithiau yng Nghymru hyd ei ymneilltuad yn 1841. Bu'n gadeirydd y dalaith Gymraeg (1821-6) ac yn ysgrifennydd talaith y De (1829-33). Cyhoeddodd ysgrifau lawer yn yr Eurgrawn Wesleyaidd ac amryw fân lyfrau, pregethau gan mwyaf, a'i ddyddiadur, pan ydoedd yn genhadwr yn Sierra Leone, heblaw cyfeithiadau o emynau Wesley. Effeithiodd yr afiechyd a gafodd yn Affrica ar ei feddwl, a chaed ef wedi ymgrogi ger ei gartref yng Nghydweli, 9 Chwefror 1851.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.