DAVIDS, THOMAS WILLIAM (1816 - 1884), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd eglwysig

Enw: Thomas William Davids
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1884
Plentyn: Thomas William Rhys Davids
Rhiant: W. Saunders Davids
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd eglwysig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 11 Medi 1816 ym Mrowyr, lle y gweinidogaethai ei dad, W. Saunders Davids, gŵr o Ffaldybrenin o linach David Jones, Llangan. Collodd ei rieni yn ifanc a magwyd ef gan ewythr iddo, Thomas Thomas, Llanbedr Efelffre. Bwriedid iddo fod yn feddyg ond mynnodd ddilyn llwybr ei dad. Aeth i Goleg Homerton, Llundain. Yn 1840 daeth yn weinidog eglwys Annibynnol Colchester, swydd Essex, ac yno y bu hyd 1875. Ef oedd ysgrifennydd cyfundeb Annibynnol y cylch am flynyddoedd, ac ar achlysur dathlu ail ganmlwydd Troad Allan y Ddwyfil ysgrifennodd hanes y rhai a drowyd allan yn y cylch a chyhoeddwyd ei waith, a arddangosai ôl ymchwil manwl, yn 1863. Casglasai ddefnyddiau lawer at sgrifennu cyfrol helaethach ar hanes Ymneilltuaeth yn Essex ond bu farw 11 Ebrill 1884 heb orffen y gwaith. Mab iddo oedd T. W. Rhys Davids (1843 - 1922), athro astudiaeth gymariaethol crefydd ac awdurdod ar Fwdistiaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.