Ganwyd yn Aberystwyth, 16 Hydref 1820. Cafodd addysg elfennol weddol dda, ac wedyn fe'i diwylliodd ei hun drwy ddarllen yn eang. Weslead oedd ei fam, ac ymunodd yntau â hwy yn 1840. Pregethwr cyflogedig yn Llanfair-yng-Nghornwy ydoedd pan dderbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1843; ordeiniwyd ef ar derfyn ei dymor prawf yn 1847. Wedi bod ohono'n weinidog ar amryw gylchdeithiau yng Ngogledd Cymru, Lerpwl, a Llundain, dewisiwyd ef yn oruchwyliwr llyfrfa ei gyfundeb ym Mangor, yn 1867. Ef, ond odid, oedd y mwyaf amryddawn o weinidogion Wesleaidd Cymraeg ei ganrif - yn drefnydd medrus, dadleuydd effeithiol, yn fawr ei ddiddordeb mewn llên a cherddoriaeth, ac yn bregethwr dylanwadol iawn. Bu'n olygydd Y Winllan (1857-60) a Yr Eurgrawn Wesleyaidd (1866-75), a bu'n ysgrifennu ' Llith yr Hen Wyliedydd ' i'r olaf yn rheolaidd am gyfnod maith. Ei brif weithiau llenyddol oedd: Geiriadur Ysgrythyrol, 1857, Agoriad i'r Ysgrythyrau, 1860, Athrawiaeth yr Iawn, 1873, John Bryan a'i Amserau, 1900 (adarg. o Eurgrawn 1867). Ef oedd ysgrifennydd cyntaf trysorfa capelau talaith Gogledd Cymru (1855-60, 1863-6), a bu'n ysgrifennydd y dalaith o 1865 hyd 1875. Etholwyd ef hefyd yn un o lywodraethwyr Ysgol y Friars ym Mangor. Ei wraig gyntaf oedd Jane Williams, Tŷ Newydd, Abergele (bu farw 26 Ionawr 1854, yn 33 mlwydd oed); mab iddynt hwy oedd William Edwards Davies. Ei ail wraig oedd Mary Humphreys o Aberystwyth (bu farw 1875), gweddw Hugh Humphreys o Dreffynnon. Bu ef ei hun farw yn fuan ar ôl ei ail wraig, 13 Awst 1875, chladdwyd ef gyda hi yn Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.