DAVIES, WILLIAM EDWARDS (' W. E. Davies '; 1851 - 1927), Cymmrodor ac eisteddfodwr

Enw: William Edwards Davies
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1927
Rhiant: Jane Davies (née Williams)
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Cymmrodor ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Daniel Williams

Ganwyd 8 Medi 1851 yn Nolgellau, ail fab (o'r briodas gyntaf) i'r Dr. William Davies, gweinidog Wesle ac awdur Y Geiriadur Ysgrythyrol. Carai ysgrifennu o dan yr enw ' Ap yr Hen Wyliedydd.' Yn Llundain y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes, ac yno trwy ei gysylltiad amlwg â Chymdeithas y Cymmrodorion y deffrowyd ynddo ei gariad at Gymru. Bu'n aelod ohoni, yn swyddog (yn ei dro), a gwas ffyddlon iddi am weddill ei oes. Bu'n cydweithio â Syr Hugh Owen, a thrwyddo ef y gweithredai'r marchog hwnnw ynglŷn â mudiadau Cymreig, fel y dengys y gohebiaethau (sy'n eiddo'r teulu). Ysgrifennodd gofiant Syr Hugh Owen, 1885. Yn 1867 apwyntiwyd ef ar staff y ' North and South Wales Bank,' a bu dros dymor yn Lerpwl, Trallwng, a Llanrwst. Daeth i Gaernarfon yn gyfrifydd, 1875-8, ac efe oedd ysgrifennydd yr eisteddfod genedlaethol yno yn 1877. Cymerth ran yn adeiladu'r pafiliwn. Ysgrifennodd hanes ' Hen Eisteddfodau Caernarfon ' o 1821 hyd 1880 (gweler Cofnodion 1886). Bu'n gydysgrifennydd â (Syr) Vincent Evans i eisteddfod Llundain, 1887, a thrachefn â D. R. Hughes yn 1909. Bu'n byw ym Miwmares (1891-5) fel rheolwr gwaith calch sir Fôn. Bu'n flaenllaw ynglŷn â llunio Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a diwygio ei pheirianwaith; ac ef a arwyddodd bob adroddiad blynyddol o 1882 hyd 1886 ac a oedd yn gyfrifol am ragymadroddion. Penodwyd ef yn aelod o gyngor Coleg y Brifysgol ym Mangor. Bu farw yn ei gartref yn Beckenham, Kent, 21 Ionawr 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.