Ganwyd yn Nancaw, Llangelynnin, Sir Feirionnydd, 25 Tachwedd 1852, yn ôl un cofnod - ar 18 Tachwedd 1851 yn ôl cofnod arall. Lewis Evans oedd ei dad, a'i fam yn Ann Lewis, o Arthog - bu hi farw ar eni ei hail fab, William. O'r adeg yr oedd yn bedair oed meithrinwyd Evan ym mhentref anghysbell Trawsfynydd gan fam ei dad, sef Beti Evans, gwraig o bersonoliaeth gref a foldiodd gymeriad ei hŵyr. Cafodd le'n y pentref fel disgybl athro, cynorthwywr mewn masnachdy, a chlerc. Fe'i denwyd gan Lundain, cyrhaeddodd yno Dydd Gŵyl Dewi, 1872, ac arhosodd yno hyd ei farw 13 Tachwedd 1934. Cafodd le ar staff cwmni o archwilwyr cyfrifon; daeth yn ysgrifennydd ac, yn ddiweddarach, yn rheolwr y 'Chancery Lane Land and Safe Deposit Company' - a chadwodd y swydd hon hyd ychydig fisoedd cyn ei farw. Caniatâi'r swydd hon iddo gryn lawer o seibiant i'w dreulio gyda gweithgareddau eraill, y rhan fwyaf ohonynt a rhywbeth i'w wneuthur â datblygiad diwylliannol Cymru. Yr oedd yn newyddiadurwr diflino, yn aelod o'r Whitefriars Club, ar restr 'Lobby' y Senedd, yn wastad yn ystafelloedd bwyta ac ysmocio Tŷ'r Cyffredin, yn cynrychioli y South Wales News (Caerdydd), ac yn ysgrifennu i'r Manchester Guardian; ysgrifennai erthygl wythnosol i Baner ac Amserau Cymru, ac efe hefyd oedd y 'Nancaw Hen' a ysgrifennai'r erthygl wythnosol, 'Yn Syth o'r Senedd,' i'r Brython. Yn rhinwedd ei swydd fel newyddiadurwr bu Vincent o gymorth mawr yn y gwaith o sefydlu cymeriad cyhoeddus aelodau seneddol o Gymru, yn enwedig David Lloyd-George - bu'r ddau yn gyfeillion hyd y diwedd.
Y ddau sefydliad y cysylltir enw Vincent Evans fynychaf â hwynt - a pharhaodd y cysylltiad am hanner canrif - oedd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafodd Cymdeithas y Cymmrodorion ei geni yn 1751, âi i gysgu o bryd i bryd, ac fe'i deffrowyd o'i chwsg i fod yn effro byth mwy yn 1873 gan Syr Hugh Owen, Stephen Evans, ac eraill o Gymry Llundain. Dewiswyd Vincent yn aelod o'r gymdeithas fis Hydref ac o'r cyngor fis Rhagfyr 1886. Yn adroddiad y gymdeithas am y flwyddyn yn diweddu 9 Tachwedd 1887 dywedir ei ddewis i ddilyn Mr. C. W. Jones, a fuasai'n ysgrifennydd bron o'r amser yr adfywiwyd y gymdeithas. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe'i dewiswyd ef yn olygydd Transactions y gymdeithas; llwyddodd, fel ysgrifennydd a golygydd, i ychwanegu'n fawr at rif yr aelodau a pheri cyhoeddi tua 100 o gyfrolau y medrodd ef ddarbwyllo ysgolheigion Celtaidd pennaf ei ddydd i ysgrifennu eu cynnwys. Y cyfrolau hyn ydyw ei gofgolofn mwyaf nodweddiadol ef. Er na honnai ef ei hunan unrhyw ysgolheictod, cyflwynai trwy'r cyhoeddiadau hyn offeryn y gallai ffrwyth llafur arbenigwyr gyrraedd hyd at bobl ddeallus.
Bu ei ddylanwad yn gyffelyb ar yr eisteddfod genedlaethol yn rhinwedd ei swyddi fel ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod a golygydd ei chyhoeddiadau o 1881 ymlaen. Llwyddodd i ddod â threfn - ac yr oedd llawer o'i eisiau - i weithrediadau'r hen ŵyl hon ac i faterion ariannol yr ŵyl.
Yn herwydd ei wasanaeth i'r ddau sefydliad hyn, ac oblegid ei fod yn aelod o bron bob cyngor addysgol o bwys yn y Dywysogaeth am flynyddoedd lawer, daeth i lanw lle arbennig iawn; edrychid arno fel gŵr o awdurdod ac arweinydd, a gofynnid am ei gyngor pan oeddid ar fin cychwyn mudiadau newydd. Yn ystod rhyfel mawr 1914-18 yr oedd megis canolbwynt gweinyddol i lu o weithrediadau gwladgarol - cadeirydd pwyllgor gwaith y London Welsh Battalions, 1914-8, trysorydd y 'National Fund for Welsh Troops,' 1915-8, ymddiriedolwr y 'Welsh Troops Children Fund,' trysorydd y 'London Welsh Belgian Refugees Fund,' 1914-5. Cydnabuwyd ei ddiddordeb mewn hynafiaethau pan ddewiswyd ef yn llywydd y 'Cambrian Archaeological Association,' yn gadeirydd y 'Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire,' ac yn aelod o'r 'Royal Commission on the Public Records.' Yr oedd yn ustus heddwch yn Sir Feirionnydd a bu'n siryf y sir honno, 1919-20. Am flynyddoedd lawer bu'n aelod yng nghapel y Methodistiaid Cymraeg, Jewin, Llundain, a'i gyswllt yn agos â'r 'London Welsh Charitable Aid Society'; yr oedd hefyd yn un o'r seiri rhyddion.
Dengys yr holl bethau hyn a'r gwahanol swyddi a lanwodd ef mewn dull mor deilwng ei fod yn un o Gymry mwyaf defnyddiol ei oes, a chydnabuwyd hyn gan ei gydgenedl mewn dwy dysteb genedlaethol, 1899 a 1922, gan y radd LL.D. ('er anrhydedd') a roddwyd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1922, a phan ddyfarnwyd iddo fedal aur Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yr un flwyddyn. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1909 ac yn 'Companion of Honour' yn 1922.
Yr oedd yn ddyn ysgwyddog a gosgeiddig a chanddo ben mawr a gwên radlon. Bu ei wraig (Annie Elizabeth, merch Thomas Beale, Rhydychen) farw yn 1898, a goroeswyd yntau gan fab a merch. Llosgwyd ei gorff yn Golders' Green, Llundain, 16 Tachwedd 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.