Ganwyd ym Mryncethin ger Penybont-ar-Ogwr, 16 Rhagfyr 1864; ei dad, Thomas, yn ffermio tyddyn Caehelyg Bach, yn gweithio yng ngwaith glo Parc Tir Gwnter, ac yn pregethu gyda'r Annibynwyr, a'i fam, Mary, yn un o deulu David, Pencoed. O du ei dad llifai gwaed hen deuluoedd Dawkins a Gamage yn ei wythiennau. Bu'r fam farw yn 1877, lladdwyd y tad yn y gwaith glo, 14 Awst 1879, a chladdwyd y ddau yn un o feddrodau teulu Gamage ym mynwent Llansantffraid Leiaf. Addolai'r teulu gyda'r Annibynwyr yn eglwys Betharan, Brynmenyn. Dechreuodd yntau bregethu ym Mheniel, Bryncethin, pan yn 16 oed. Gan fod ei frodyr a'i chwiorydd wedi myned i wahanol gyfeiriadau rhoes y tyddyn i fyny, a myned i Academi Pontypridd, o dan E. Dunmor Edwards. Derbyniwyd ef i'r Coleg Coffa, Aberhonddu, yn 1887. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yng Ngholeg Caerdydd, a'r ddwy ddilynol yn Aberhonddu. Yn Chwefror 1891 derbyniodd alwad o eglwys Saron, Birchgrove, ac ordeiniwyd ef yno 5 a 6 Gorffennaf 1891. Yn 1892 cafodd alwad i roi ei Sul gwag bob mis i eglwys ieuanc Carmel, Treforus. Yn 1904, cyfyngodd ei wasanaeth yn llwyr i eglwys Carmel, ac yno y bu nes ymddeol yn 1929. Yn 1938, priododd Mrs. Kate Evans, Treforus. Bu farw 10 Awst 1939, a chladdwyd ef ym mynwent Horeb, Treforus. Pregethwr cartrefol ydoedd, ac ni cheisiodd ddisgleirio mewn cymanfaoedd a chynadleddau. Yr oedd yn weinidog rhagorol ac yn ystod ei weinidogaeth cynyddodd aelodaeth Carmel yn chwephlyg. Yr oedd yn fardd wrth natur ac yn llenor rhwydd. Enillodd gadair eisteddfod Tir Iarll yn 1913, a gwobrwywyd ei delynegion yn eisteddfod genedlaethol Aberafan, 1932, a'i delynegion a'i gywydd yng Nghastell Nedd, 1934. Cyfrannodd yn helaeth i'r Tyst a'r Darian ac i'r papurau lleol. Yr oedd yn aelod o'r Orsedd. Efe yw awdur emyn 1049 yn y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd. Cyhoeddodd ailargraffiad o'r Lloffyn Addfed (John Davies, Mynydd-bach, 1850) yn 1914, a hunangofiant dwyieithog, Hogyn o Lannau Ogwr, yn 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.