Ganwyd yn y Dreboeth (Abertawe) 10 Mai 1803. Gweithiai mewn glofa ac yr oedd yn aelod yn eglwys Mynydd-bach. Dechreuodd bregethu yn 1828; ni chafodd fawr addysg; urddwyd ef yn 1831 yn weinidog Llantrisant. O Orffennaf 1836 hyd Ebrill 1840 bugeiliai eglwysi Ebeneser (Heol-y-felin, Aberdar) â Nebo (Hirwaun); ond yn 1840 galwyd ef i fugeilio ei hen eglwys yn y Mynydd-bach, a oedd ar y pryd mewn cyflwr difrifol ar ôl yr helyntion y bwriwyd hi iddynt gan y cynweinidog Isaac Harding Harris. O dipyn i beth, gwnaeth John Davies drefn dda arni. Bychan oedd ei gyflog, ac yr oedd ganddo deulu mawr, felly cymerodd ofalaeth glofa, a bu farw yn honno (wedi ei fygu gan y nwy), 6 Medi 1854. Yr oedd yn sgrifennwr dyfal; ymysg ei weithiau gellir enwi Arch y Cyfamod, 1840, a'i argraffiad helaethedig, 1852, o gofiant Lewis Rees gan John Roberts, Llanbrynmair. Ond dylid ei gofio hefyd am y bregeth a draddododd yn Ebeneser, Aberdâr, 9 Medi 1839, i'r 'Moral Force Chartists' ac ar eu wahoddiad; argraffwyd hi gan T. Price, Merthyr Tydfil, dan y teitl Y Ffordd Dda, 1839, ac y mae'n fynegiant diddorol o Radicaliaeth gymedrol arweinwyr Annibynnol y cyfnod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.