1594 yw'r dyddiad cynharaf wrth ei gerddi (NLW MS 3051D (692)), a 1657 yw'r diweddaraf (B.M. MS. 51 (73)). Y mae'n bosibl, felly, mai ef oedd mab hynaf Lewys Dwnn. Canai'r ddau yn fynych i'r un personau - teuluoedd Gogerddan, Mathafarn, Gregynog, a'r Plasau Duon, Dr. John Davies, Mallwyd, etc., ond cyfyngai James Dwnn ei hun gan mwyaf i'w ardal ef ei hun. Cadwodd lawer o'i gerddi yn 'Llyfr James Dwnn' (Llanstephan MS 53 ), ond y mae llawer hefyd ar wasgar mewn cyfrolau eraill, megis NLW MS 1560C , NLW MS 2691D , NLW MS 5261A , NLW MS 5269B , NLW MS 6496C ; Peniarth MS 91 , Peniarth MS 92 , Peniarth MS 327 ; Cardiff MSS. 83, 84, etc. Cerddi moliant a marwnad yw'r mwyafrif mawr, ond dylid sylwi ar ei englynion am losgi plas Mathafarn gan filwyr Cromwell yn 1644, ac ar y pedwar cywydd 'ar yr epistol ddydd gŵyl y Gwirioniaid,' 'y Sul gwedi yr Natolig,' 'ddydd Calan,' a 'dydd gŵyl Ystwyll' (NLW MS 7191B (262-5)).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.