Ganwyd 8 Rhagfyr 1838 yn fab hynaf THOMAS EDMONDES (1806 - 1892), ficer y Bontfaen; yr oedd ei fam (Harriet Anne) yn chwaer i Charles Williams, pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen wedyn; a bu brawd iddo, FREDERICK WILLIAM EDMONDES (1841 - 1918), yn archddiacon Llandaf. O ysgolion y Bontfaen a Sherborne, aeth Charles Edmondes i Goleg y Drindod yn Rhydychen yn 1856, a graddio yn 1861 (yn y dosbarth blaenaf mewn Groeg a Lladin, a chyda hynny'n ail orau yn y gystadleuaeth am ysgoloriaeth Ladin ' Hertford'); bu wedyn am rai blynyddoedd yn gurad ym Mhenybont-ar-Ogwr. O 1865 hyd 1881 bu'n athro Lladin yng Ngholeg Dewi Sant. Yna, wedi bod yn ficer Boughrood-ar-Wy (1881) a'r Waren yn Sir Benfro (1882-8), codwyd ef yn 1883 yn archddiacon Tyddewi. Yn 1888 rhoes y swydd honno heibio, i fod yn brifathro Coleg Dewi Sant, a bu yno hyd 1892, pan orfodwyd ef gan afiechyd i ymddiswyddo. Bu farw 18 Gorffennaf 1893. Bu am faith flynyddoedd yn aelod selog o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.