o Rydygors, Sir Gaerfyrddin; unig fab David Edwardes. Priododd Elizabeth, merch David Morgan, Coedllwyd, Sir Benfro. Meddai ar wybodaeth eang ar achau ac arfau. Ar 1 Awst 1684 penodwyd ef gan y ' Clarenceux King-of-Arms ' i fod yn ddirprwy-herodr dros siroedd Aberteifi, Brycheiniog, Penfro, Morgannwg a Chaerfyrddin. Teithiodd lawer drwy Gymru a Lloegr, a bu'n astudio gwahanol gasgliadau o lawysgrifau ar ei deithiau. Ysgrifennodd lawer o lyfrau achau, ac yr oedd son amdano drwy Brydain a'r Cyfandir. Bu farw'n ddiblant yn 1690, a phrofwyd ei ewyllys yng Nghaerfyrddin ar 31 Tachwedd o'r flwyddyn honno. Cafodd William Lewes o Lwynderw y rhan fwyaf o'i lawysgrifau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/