mab i Samuel Edwards o'r yr Wyddgrug. Ymaelododd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen, yn Hydref 1758, 'yn 17 oed,' a graddiodd yn 1762 - rhoddir M.A. ar ôl ei enw yn y llyfrau, ond ni noda Foster mo hynny. Eisoes cyn graddio yr oedd yn gurad (21 Rhagfyr 1760) yn Wrecsam; penodwyd ef gyda hynny'n ficer Cilcain yn 1777. O 1782 hyd ei farwolaeth yr oedd yn ficer Llanarmon yn Iâl, gan barhau'n gurad yn Wrecsam - priododd â gweddw o'r dref. Bu farw 7 Awst 1820. Yn 1801 dug allan argraffiad dwy-gyfrol helaethedig o lyfr Browne Willis ar esgobaeth Llanelwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.