Ganwyd 14 Hydref 1832 ym mhlwyf Llanllawddog, Sir Gaerfyrddin, mab Edward a Margaret Edwardes, Rhydargaeau. Yr oedd ei dad yn Ymneilltuwr, ac ef a gadwai siop y pentref. Addysgwyd Edwardes yn lleol, mae'n debyg, cyn iddo fyned i Brifysgol Glasgow, lle y gwnaeth enw iddo'i hun trwy gipio'r wobr flaenaf mewn athroniaeth (moeseg), a'r fedal arian a gwobr mewn athroniaeth (seicoleg). Cymerodd radd M.A. yn 1865. Ei gyfraniad mwyaf sylweddol i ysgolheictod yw ei gyfieithiad o Alcestis (Euripides) i Gymraeg. Am hyn rhannodd ef a David Rowlands ('Dewi Môn') wobr o £100 yn eisteddfod Aberdâr, 1885. Cyhoeddwyd y ddau gyfieithiad mewn un gyfrol gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1887. Bu Edwardes yn gurad yn Nhalacharn 1866-9, Llandeloy 1869-72, Dinas (Penfro) 1872-4, Llanllwchaiarn 1874-5, S. Paul (Llanelli) 1875-7, Begelly 1880-4, a Rudbaxton 1886-8. Ar 22 Hydref 1888 sefydlwyd ef yn rheithor Hodgeston, Sir Benfro, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau. Bu farw 19 Gorffennaf 1898.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.