EDWARDS, HUMPHREY (1730 - 1788), meddyg ac apothecari

Enw: Humphrey Edwards
Dyddiad geni: 1730
Dyddiad marw: 1788
Rhiant: Robert Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg ac apothecari
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Mab ROBERT EDWARDS, rheithor Llanrug o 1725 i 1733. Merch i Robert Edwards ydoedd Margaret, gwraig y Parch. Nicholas Owen, rheithor Llandyfrydog a mam y Parch. Nicholas Owen, rheithor Mellteyrn o 1799 i 1811 - yr oedd gan y Parch. Robert Edwards gasgliad bychan o lawysgrifau Cymraeg (NLW MSS., Panton 29, 81 et seq.). Cymerai Humphrey Edwards ddiddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg, a rhoes y Parch. John Ellis, rheithor Llanrug o 1777 i 1792, fenthyg dwy gyfrol o Lives of the Poets Johnson iddo ar 2 Ionawr 1782 (Bangor MS. 575). Prif ddiddordeb Humphrey Edwards ydyw iddo hwylio o amgylch y byd fel llawfeddyg, ' ship's surgeon,' ar y 'frigate' Tamer, un o'r ddwy long ryfel fach a aeth allan i chwilio Môr y De o dan lywyddiaeth Commodore Byron, taid Byron y bardd, yn y blynyddoedd o 21 Mehefin 1764 i 9 Mai 1766. Y mae y rhai a ddywaid iddo hwylio o dan Anson yn anghywir; 10 oed oedd Edwards y pryd hynny, ac nid oedd y Tamer ymhlith llongau y gŵr hwnnw. Ar fordaith John Byron dywedir i'r morwyr osgoi cael y sgyrfi am flwyddyn gron nes iddynt gyrraedd y Môr Tawel, ond bu'n rhaid arnynt lanio rhai cleifion ar Ynys Tinian, un o ynysoedd bychain y Ladrones, ac yno y bu Peter Evans, un o forwyr y Tamer, farw. Ychydig o ffrwyth a gafwyd ar yr ymdrech hon mewn darganfyddiadau, a siomedig oedd y Morlys ar waith Byron. Ymddengys mai yr hyn a dynnodd fwyaf o'u sylw ydoedd taldra anghyffredin trigolion Patagonia, a gwnaeth Byron gryn stŵr yn ei adroddiad ynghylch hynny gan haeru bod eu pennaeth yn agos i droedfedd yn dalach na James Cumming, un o'r is-swyddogion, ac yr oedd ef dros chwe troedfedd a dwy fodfedd o daldra. Ar ôl dychwelyd i Gymru bu Dr. Edwards yn feddyg yng Nghaernarfon, a cheir cyfeiriadau at ei waith yno yn nyddiaduron y Parch. John Ellis. Bu farw 26 Tachwedd 1788 a chladdwyd ef ym mynwent Llanfihangel yn Llanrug. Ar ei feddfaen cofnodir ei fod yn ŵr amlwg yn ei alwedigaeth ac yn barchus gan ei gydnabod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.