OWEN, NICHOLAS (1752 - 1811), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: Nicholas Owen
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1811
Rhiant: Margaret Owen (née Edwards)
Rhiant: Nicholas Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 2 Ionawr 1752 yn Llandyfrydog, Môn, yn ail fab i Nicholas Owen (a fu farw 17 Awst 1785), gŵr gradd (1740) o Goleg Iesu, Rhydychen, rheithor Llansadwrn 1747-50), a rheithor Llandyfrydog a Llanfihangel-tre'r-beirdd 1750-85. O Bencraig, Llangefni, yr oedd y teulu; rhydd J. E. Griffith (Pedigrees, 51) daflen ohonynt, y gellir ei chyfannu o lawysgrifau Bangor 4602-7 yng Ngholeg y Gogledd. Yr oedd 14 o blant, meddai Nicholas Owen (ieu.) mewn llythyr yn 1785 (Bangor MS. 2408), ond nid yw Bangor 4607 yn enwi ond 13, na Griffith ond 12 - gedy ef allan Richard, a aned 22 Mai 1754, a raddiodd yntau o Goleg Iesu yn 1778 (Foster, Alumni Oxonienses), a drwyddedwyd yn gurad i'w dad yn 1777 (A. Ivor Pryce, The Diocese of Bangor during Three Centuries, 115), ac a fu farw 26 Awst 1780 - ar y llaw arall, yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1931, 114, rhydd Griffith iddo yn 1780 guradiaeth Penmynydd; eithr dyn hollol wahanol oedd y Richard Owen a ddaliodd Benmynydd o 1782 (nid 1780; gweler Pryce, 38), hyd 1791. Manylir yma ar y mater hwn am y dywedir yn gyffredin (e.e. yn y D.N.B.) i Nicholas Owen (ieu.) ddilyn ei dad yn Llandyfrydog - efallai i'r camwedd ddeillio o gymysgu Nicholas a'i frawd, serch bod hwnnw wedi marw cyn ei dad. Erbyn Hydref 1785 nid oedd yn fyw, o'r holl blant, ond Nicholas a'i chwaer Mary - yr oedd y darfodedigaeth wedi ysgubo'r lleill ymaith, meddai ef. Ond yr oedd y fam (Margaret, ferch Robert Edwards, rheithor Llanrug) eto'n fyw.

Ymaelododd Nicholas Owen yn Rhydychen 30 Mehefin 1769, a graddio o Goleg Iesu yn 1773 (Foster). Efallai ei fod yn rhy anhywedd i gael cymrodoriaeth, oblegid nid oedd gofynion ysgolheigaidd ei goleg yn ormod iddo ymateb iddynt. Sut bynnag, cafodd guradiaeth yn rhywle yn union wedi ei urddo (1773). Cyhoeddodd yn 1777 gyfrol o amrywion hynafiaethol, British Remains (disgrifiad yn Llyfryddiaeth y Cymry, 581). Erbyn 1779 yr oedd wedi symud i guradiaeth Winslow (Bucks); cyhoeddwyd yn 1788 bregeth ganddo yno ymhlaid yr ysgol Sul, ond dylid chwanegu mai pur gymysg oedd ei farn am yr ysgolion - yn 1789 sgrifenna at esgob Llundain mai tuedd y disgyblion oedd troi'n ' sectaries or Methodists,' a bod ' ignorant and enthusiastick clergy ' yn cymryd mantais arnynt (Bangor MS. 2408 - yn ei ateb, anghytuna'r esgob ag ef); yn wir, bu Nicholas Owen bob amser yn llawdrwm iawn ar offeiriaid di-ddysg, a 'sectariaid,' a byddai'n sgrifennu i'r Wasg yn eu herbyn, dan y ffugenw ' Observator.' Gall ei fod hefyd yn cadw ysgol (neu'n hyfforddi bechgyn) yn Winslow; o leiaf cyhoeddodd werslyfr, Select Phrases from Horace, yn 1785. Bu farw ei ficer ddiwedd 1788, ac yn ei siom am fethu cael y fywoliaeth, symudodd (erbyn Hydref 1789) i Fangor, i fyw gyda'i fam. Yr oedd ers tro byd wedi bod yn poeni eneidiau noddwyr plwyfi (archesgob Caergaint, esgobion Bangor a Chaerlleon-fawr, yr arglwydd Bulkeley ac eraill) - ceisiodd yn Llandyfrydog (deirgwaith), yn Llanbeblig, ym Mhentir, etc. Y mae copïau o'r gohebiaethau yn llawysgrif Bangor 2408; ni ellir galw llythyrau Owen yn gwynfannus; yn hytrach, hawlio a dwrdio a dannod y byddai beunydd, gymaint felly nes iddo orfod ymddiheuro ar goedd i esgob Bangor a chael llythyr neilltuol hallt gan Bulkeley. O'r diwedd (17 Tachwedd 1790 - Pryce, op. cit., 42), penododd deon Bangor ef yn gurad parhaol Llanfihangel-ysgeifiog a Llanffinan. Cyhoeddodd yn 1792 Carnarvonshire, a Sketch of its History, etc. Ac ar 30 Hydref 1800 (Pryce, 46), cafodd reithoraeth Mellteyrn a Botwnnog. Daliai i fyw ym Mangor (Llyfryddieth y Cymry, 582). Bu farw'n ddibriod, 30 Mai 1811, a chladdwyd yn Llandyfrydog. Y mae'n un o'r amryw y priodolid iddynt yr History of the Island of Anglesea, 1775 (gweler dan John Thomas, Biwmares, 1736 - 1769).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.