Ganwyd 15 Ionawr 1770, mab John Edwards (bu farw 1789), Greenfields, Machynlleth (Plas Machynlleth). Ymaelododd yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ar 8 Rhagfyr 1787. Daeth yn gyrnol ym milisia sir Drefaldwyn, a bu'n uchel siryf Meirionnydd (1805), a Sir Drefaldwyn (1818). Rhwng 1832 a 1841 ymladdodd bedair etholiad seneddol fel Chwig, gan ymdrechu ennill a chadw etholaeth bwrdeisdrefi sir Drefaldwyn rhag y Torïaid, a gwariodd dros £20,000 yn y gwaith. Er y flwyddyn 1728, gan fwrdeisdref Trefaldwyn yn unig yr oedd yr hawl i ddewis aelod dros y fwrdeisdref, ac yr oedd ers amser maith dan ddylanwad teulu Herbert castell Powys. Buasai Edwards ers peth amser yn talu sylw arbennig i fwrdeisdref Machynlleth a ychwanegasid, gyda Llanidloes, y Trallwng, Llanfyllin, a'r Drenewydd, at yr etholaeth o dan y Reform Act, 1832. Yn etholiad 1832, y gyntaf ar ôl i Ddeddf 1832 ddyfod i rym, trechwyd Edwards gan y Tori, David Pugh, Llanerchudol. Anfonwyd petisiwn yn erbyn yr ethol, bu'r mater o dan ystyriaeth pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin, a dyfarnwyd nad oedd etholiad 1832 yn rheolaidd. Yn yr etholiad a ddilynodd, yn 1833, trechodd Edwards Panton Corbett, Longnor Hall, Tori. Ailetholwyd ef, heb wrthwynebydd, yn 1835; yn 1837 trechodd Panton Corbett am yr ail waith. Yn 1841 trechwyd Edwards gan Hugh Cholmondeley, Vale Royal, Tori. Yn ystod ei dymor fel aelod seneddol bu'n pleidio llywodraeth Grey ac un Melbourne, a chafodd ei wneuthur yn farwnig yn 1838. Disgrifiwyd ef yn 1842 fel 'the first representative of popular opinions in Montgomeryshire boroughs.' Bu farw 19 Ebrill 1850. Priododd ei ferch a'i aeres, yn 1846, ' George Henry Vane, 5ed ardalydd Londonderry wedi hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.