Ganwyd 15 Ebrill 1806 yn Tynyfedw, plwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd. Cafodd beth addysg o dan Michael Jones a bu'n aelod o Gymdeithas Cymreigyddion Llanuwchllyn. Ymfudodd i U.D.A. yn 1828. Bu'n byw yn New York, yna yn Utica, ac yn ôl yn New York (1834-42). Priododd, yn New York, Mary James, merch o Gastellnewydd Emlyn. Symudodd i Floyd yn nhalaith New York a bu'n ffermio yno am 24 mlynedd. Yn 1866 symudodd, gan brynu fferm lai yn agos i Rome, N.Y., lle y bu hyd ei farw, 20 Ionawr 1887. Daeth yn adnabyddus yn U.D.A. fel bardd a llenor, enillodd amryw wobrwyon mewn eisteddfodau, ac ysgrifennai i'r Arweinydd, Haul Gomer, Y Cymro Americanaidd, Y Wasg, Y Drych, Y Cyfaill, a The Old Countryman. Yn 1854 cyhoeddodd Llais o'r Llwyn: sef Barddoniaeth ar Amryfal Destynau … (Utica, 1854).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.