EDWARDS, WILLIAM ROBERT ('Glanllafar ', 1858 - 1921), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor

Enw: William Robert Edwards
Ffugenw: Glanllafar
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1921
Priod: Ellen Edwards (née Anwyl)
Rhiant: Annie Edwards
Rhiant: Edward Jones Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gildas Tibbott

Ganwyd 19 Medi yn y Tŷ Coch, Parc, Bala, yn fab i Edward Jones Edwards ac Annie ei wraig. Addysgwyd ef yn yr ysgolion lleol ac yng Ngholeg yr Annibynwyr dan Michael D. Jones. Methodistiaid oedd y teulu, ond ymaelododd ef yn Hen Gapel (Annibynwyr) Llanuwchllyn yn 1876, a thua'r un adeg dechreuodd bregethu. Ar ôl ei ordeinio yng nghapel Sardis, Llanwddyn, Sir Drefaldwyn, yn Ionawr 1881, bu'n bugeilio eglwysi Sardis a Saron (1881-8), Braichywaen (1882-8), Carmel, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin (1889-90), a Bethesda, Brynmawr (Brycheiniog) (1890-6), Yn 1896 galwyd ef i fugeilio eglwys yr Annibynwyr Cymraeg yn Granville, Efrog Newydd; yn 1906 derbyniodd fugeiliaeth eglwys y Tabernacl, Scranton, Pennsylvania, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau. Bu farw 23 Chwefror a'i gladdu ym mynwent Dunmore, Scranton. Ei briod oedd Ellen Anwyl, Cae'r Berllan, Towyn, Meirionnydd, a bu iddynt fab a dwy ferch.

Gwnaeth W. R. Edwards enw iddo'i hun fel bardd a llenor. Enillodd lawer o wobrau mewn eisteddfodau, gan gynnwys pum cadair. Am gyfnod maith bu galw mawr am ei wasanaeth fel beirniad llên yn eisteddfodau'r cymdeithasau Cymreig ar hyd a lled yr Unol Daleithiau. Cyfrannodd lawer i'r Wasg Gymraeg, ac ef oedd golygydd Cofiant Rhys Gwesyn Jones, D.D., LL.D. (Utica, T. J. Griffiths, 1902).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.