Ganwyd yn Glandŵr, Abertawe, 6 Rhagfyr 1848. Symudodd yn ifanc i Gwmbach, Aberdâr, cafodd addysg elfennol yng Nghwmbach ac Aberdâr, a bu'n ddisgybl ac athro cynorthwyol ym Merthyr Tydfil. Dechreuodd bregethu ym Mynydd Seion, Cwmbach. Bu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, 1868-70. Ymfudodd i America yn 1870 er mwyn iechyd, a bu'n weinidog eglwys Annibynnol Mineral Ridge, Ohio, 1871-2, yr Eglwys Gynulleidfaol Gyntaf, Wilkes-barre, Pa., 1872-8, Wilkes-barre ac Edwardsville 1878-80, Edwardsville 1880-91, Ebeneser, Caerdydd, 1891-3, Edwardsville 1893-1927. Yr oedd yn un o weinidogion mwyaf llwyddiannus ei gyfnod yn America - ei eglwys yn un o'r rhai mwyaf yn y Taleithiau. Meddai bersonoliaeth urddasol, llais da dan reolaeth berffaith; yr oedd yn bregethwr poblogaidd a huawdl, yn drefnydd eglwysig medrus, ac yn arweinydd yn ei enwad.
Urddwyd ef yn archdderwydd yn America yn 1913 gan ' Dyfed,' a bu'n oleuad mawr yn y byd eisteddfodol. Cipiodd wobrau pwysig mewn barddoniaeth; cyfansoddodd lawer o emynau; ond yn bennaf, cyfrifid ef yn arweinydd eisteddfod ar ei ben ei hun. Rhwng 1891 a 1897 bu'n arwain pump o eisteddfodau cenedlaethol Cymru. Bu'n athro areithyddiaeth yng Ngholeg Wyoming, Kingston, Pa., 1880-90. Cyhoeddodd Darllen a Siarad, 1891, gwaith a gafodd gylchrediad helaeth. Cyhoeddodd hefyd Y Mayflower a Chaniadau Eraill (Utica, 1877). Bu farw 13 Mawrth 1927.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.