REES, EVAN ('Dyfed '; 1850 - 1923), pregethwr, bardd, ac archdderwydd Cymru

Enw: Evan Rees
Ffugenw: Dyfed
Dyddiad geni: 1850
Dyddiad marw: 1923
Rhiant: Eunice Rees
Rhiant: James Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr, bardd, ac archdderwydd Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: James Ednyfed Rhys

Ganwyd 1 Ionawr 1850 yn Casmael, Sir Benfro, mab James ac Eunice Rees. Symudodd y teulu i Aberdâr pan nad oedd y mab ond naw mis oed. Ni chafodd fawr addysg. Gweithiai yng nglofa Blaengwawr, Aberdâr, yn 8 mlwydd oed. Symudodd i Gaerdydd pan yn 23 mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn eglwys Seion (Methodistiaid Calfinaidd), Caerdydd (Pembroke Terrace wedi hynny). Daeth i sylw fel bardd yn gynnar yn ei oes. Enillodd y prif wobrau mewn eisteddfodau taleithiol a chenedlaethol, e.e. eisteddfodau cenedlaethol Merthyr Tydfil, 1881, ar 'Cariad'; Lerpwl, 1884, ar 'Gwilym Hiraethog'; Aberhonddu, 1889, ar 'Y Beibl Cymraeg'; Merthyr Tydfil eilwaith yn 1901 ar 'Y Diwygiwr'; eisteddfod gyd-genedlaethol Chicago, 1893, ar 'Iesu o Nazareth'. Beirniadai bron bob blwyddyn yn yr eisteddfod genedlaethol yn ystod 40 mlynedd olaf ei fywyd. Gwasanaethodd fel archdderwydd yng Ngorsedd y Beirdd am 21 mlynedd. Enillodd le amlwg fel pregethwr, a gelwid ef i'r prif wyliau ar hyd blynyddoedd anterth ei nerth. Teithiodd ar hyd Ewrop, Affrica, rhannau o Asia, a'r Unol Daleithiau. Enillodd sylw mawr fel darlithiwr a thramwyodd y wlad i draethu ar 'Beirdd a Barddoniaeth,' 'Islwyn,' 'Ann Griffiths,' 'Pantycelyn,' 'Dros Gyfanfor a Chyfanfyd,' 'Gwlad y Pyramidiau,' 'Gwlad Canaan,' 'Gwlad y Dyn Du'. Golygodd Y Drysorfa o 1918 hyd 1923. Cyhoeddodd Caniadau Dyfedfab, Gwaith Barddonol Dyfed, dwy gyfrol, Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth, ac Oriau gydag Islwyn. Bu farw 19 Mawrth 1923. Brawd iddo oedd Jonathan Rees.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.