Ganwyd 21 Awst 1841 yn Casmael, Sir Benfro, mab James ac Eunice Rees, a brawd i Evan Rees, ' Dyfed '. Symudodd y teulu i Aberdâr pan oedd yn 9 mlwydd oed, ac i Ystrad Rhondda yn 1877. Bu'n swyddog yng nglofa Bodringallt hyd ddiwedd ei oes. Bu'n amlwg gydag addysg ac yn aelod o fwrdd ysgol y Rhondda am flynyddoedd lawer.
Ni fu nemor eisteddfod genedlaethol yn 30 mlynedd olaf ei fywyd nad enillai wobrwyon ar bob math o fesurau. Yn Lerpwl yn 1900 llwyddodd i gipio cynifer â chwech o wobrau. Cyhoeddodd Caniadau Nathan Wyn, a Munudau Hamddenol. Ceir llawer o'i farddoniaeth yng ngholofnau'r Gwladgarwr, Y Geninen, a'r Cymru (O.M.E.). Bu farw 13 Mehefin 1905.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.