Ganwyd 21 Tachwedd 1863 mewn tŷ yn rhesdai Hen Walia, Caernarfon, yn un o 12 plentyn William a Jane Edwards, a symudodd i Benrhyndeudraeth i fyw. Cafodd ychydig addysg yn yr ysgol elfennol eithr arferai ddweud mai yn yr ysgol Sul y cafodd yr addysg orau. Gan fod ei dad yn gapten llong a bod ei frodyr hefyd ar y môr, bwriadodd yntau fynd yn llongwr, ond cafodd ddigon o'r môr ar ôl un fordaith. Aeth i weithio yn chwarel lechi Oakeley, Blaenau Ffestiniog; wedi hynny bu'n gweithio ar reilffordd Ffestiniog a daeth yn feistr stesiynau Tanybwlch a'r Dduallt. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd amryw englynion trawiadol a phert. Priododd Harriet Williams, Llanferres, a bu iddynt bedwar o blant. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i waith barddonol - Chydig ar Gof a Chadw, dan olygiaeth Isaac Davies, yn 1926, a Yr Awen Barod, wedi ei golygu gan J. W. Jones, yn 1943. Yr oedd yn un o englynwyr mwyaf gwreiddiol a chywrain Cymru. Bu farw 20 Mawrth 1940, a chladdwyd ef yng nghladdfa Allerton, Lerpwl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.