Ganwyd 5 Mawrth 1883 yn 4, Caerffridd, Tanygrisiau, Meirionnydd, yn fab i David Jones, 'Glan Barlwyd', a'i wraig Ellen (ganwyd Roberts), Llwynogan, Llanedwen, Môn. Addysgwyd ef yn ysgol Glan-y-pwll hyd nes yr oedd yn ddeuddeg oed ac yna treuliodd ddwy fl. arall yn yr Higher Grade School yn y Blaenau. Oddi yno, yn 1897, aeth i weithio i chwarel yr Oakley lle bu wrthi'n ddiwyd am 53 blynedd, nes ymddeol wedi anafu ei glun. Priododd â Maggie Jones, Minffordd, Oakley Square, Tanygrisiau, 11 Mehefin 1913, a ganwyd iddynt un mab. Yn 1936 dewiswyd J.W. Jones yn flaenor yng nghapel Bethel (MC), Tanygrisiau, a bu hefyd yn athro Ysgol Sul ymroddgar, diddorol am flynyddoedd lawer. Bu'n gefn parod i fechgyn a merched ifanc darllengar ei ardal.
Fel 'Joni Bardd' y cyfeirid ato'n gyffredinol yn y fro a chyflawnodd swyddogaeth y bardd gwlad yn gydwybodol. Yr oedd ganddo ddiddordeb ysol mewn barddoniaeth Gymraeg a Saesneg ac yn arbennig mewn casglu a chyhoeddi gwaith rhai o feirdd ei ardal a'r cymdogaethau agos. Golygodd beth o weithiau Ap Alun Mabon : Gwrid y Machlud (Blaenau Ffestiniog, 1941); Ioan Brothen : Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942); Gwilym Deudraeth : Yr Awen Barod (Llandysul, 1943); Rolant Wyn : Dŵr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), ac R.R. Morris : Caneuon R. R. Morris (1951). Un o'i gyfeillion agos oedd Ellis Humphrey Evans ('Hedd Wyn') a chynorthwyodd J.R. Jones gyda chyhoeddi Cerddi'r bugail. Rhoddodd beth cymorth i gasglu cynnwys O Drum i Draeth Eliseus Williams ('Eifion Wyn') ac i wneud cofiannau i Owen Griffith Owen ('Alafon') a John John Roberts ('Iolo Caernarfon'). Cynorthwyodd rywfaint ar T. Gwynn Jones yn ogystal, i gasglu ar gyfer y gyfrol Welsh Folklore. Ymhyfrydai'n arbennig yn ei gyfeillgarwch â T. Gwynn Jones a chafodd nifer o lawysgrifau oddi wrtho, yn cynnwys awdl Gwlad y Bryniau 'wedi i'r bardd ei hun ei hysgrifennu'.
Darlithiodd lawer ar feirdd ei fro mewn cymdeithasau llenyddol a chasglodd doreth o weithiau beirdd a llenorion Gwynedd, e.e., Alafon, Elfyn, Isallt, W. Pari Huws, Gwilym Prysor, Carneddog, Glaslyn, Barlwydon, Gwilym Morgan, Awena Rhun, Glyn Myfyr, Llifon, ac eraill. Gofalodd hefyd bod beirdd, llenorion a cherddorion y cylch yn cael eu coffäu'n deilwng. Trefnodd i gael carreg fedd arbennig i Robert Owen Hughes ('Elfyn') a chofgolofn (carreg o Gwm Pennant) i ' Eifion Wyn'. Gyda chyfaill arall, a T. Gwynn Jones, mynnodd weld gosod carreg las ar fedd Robert Roberts, 'Y Sgolor Mawr' ym mynwent Llangernyw. Bu'n gyfrifol am y gofeb ger cartref Thomas Lloyd ('Crych Elen'), yn Nolwyddelan - daeth yr arian at hyn oddi wrth wraig o'r Amerig. Gofalodd am godi maen coffa i Edward Stephen ('Tanymarian') yn Rhyd Sarn, Dyffryn Maentwrog, a threfnodd gyfarfod coffa i ddadorchuddio cofeb i Forgan Llwyd yng Nghynfal Fawr. Yn ddiweddarach casglodd a golygodd gyfrol goffa sylweddol i'r llenor o Gynfal, Morgan Llwyd o Wynedd. Coffa Morgan Llwyd (1952). Casglodd arian yn ogystal at gronfa goffa Syr O. M. Edwards. Bu'n ohebydd cyson i newyddiaduron a chylchgronau ei gyfnod : Y Glorian; Y Rhedegydd (llawer iawn i hwn, am flynyddoedd); Y Genedl (cyfrannodd golofn wythnosol iddi am rai blynyddoedd- 'Nodion Meirion'); Yr Herald Cymraeg (amryw o ysgrifau ar feirdd a llenorion); Y Brython; Y Faner; Y Dydd; Y Cymro (yma yr ymddangosodd y golofn boblogaidd 'Y Fainc Sglodion'); Cymru; Y Genhinen; Cymru'r Plant; Trysorfa'r plant; Y Drysorfa fawr; Yr Eurgrawn; Yr Haul; Y Goleuad; Seren Cymru. Ychydig cyn ei farw gwelodd gyhoeddi Y Fainc sglodion: casgliad o rai o straeon y chwarel a'r capel … (1953). Dros gyfnod hir o flynyddoedd anfonodd ddefnyddiau amrywiol a gwerthfawr (yn enwedig i'r hanesydd cymdeithasol) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys llyfrau-lloffion niferus: cannoedd o lythyrau (rhai personol a rhai gan Gymry amlwg): llawysgrifau'n cynnwys gwaith amryw feirdd a llenorion; dogfennau amrywiol, megis cyfrifon sefydliadau, crefftwyr a diwydiannau lleol; cofnodion ac adroddiadau cyrff eglwysig a seciwlar; cerddi ac anerchiadau etholiadol - lleol a sirol; chwedlau lleol; rhaglenni eisteddfodau, cyngherddau a chymdeithasau llenyddol; darluniau o frodorion Ffestiniog; cerddi a chardiau coffa. Anfonodd ddefnyddiau tebyg i lyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. Bu farw 6 Ionawr 1954, yn ei gartref, a chladdwyd ef gyda'i briod (a'i rhagflaenodd o ddeuddeng mlynedd) ym mynwent Bethesda, Blaenau Ffestiniog. Yr oedd yn esiampl nodedig o werinwr diwylliedig, parod ei gymwynas, a'i ofal am 'y pethe' yn ysgogi ei holl weithgarwch.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.