Fe'i adnabyddir gan amlaf fel Richard Owen. Ganwyd 13 Ebrill 1831 yn Llofft y Tŷ Llaeth, y Parc, ym mhlwyf Llanfrothen, Sir Feirionnydd. Enwau ei rieni oedd John ac Elizabeth Owen. Ychydig o addysg fore a gafodd. Ar ôl cyfnod fel gwas bach yn Ynysfor, aeth i weithio i chwarelau Ffestiniog yn 14 oed. Priododd Elin Jones o Feddgelert, a chartrefodd y ddau ym Meddgelert, lle y ganwyd iddynt ddau fab. Parhaodd cysylltiad ' Glaslyn ' â'r chwarelau; yn 1869 yr oedd yn arolygydd ar chwarel fechan yn Nyffryn Ardudwy. Yn 1877 symudodd y ddau i bentref Bryntirion, Nantmor, a thrachefn wedi ychydig amser i fwthyn o'r enw Penygroes gerllaw Pont Aberglaslyn. Ar 17 Mai 1902 collodd ' Glaslyn ' ei briod, ac aeth i ' Lys Ednyfed ' ym Mhenryndeudraeth, lle y bu farw ar 13 Mawrth 1909 yn 78 mlwydd oed; claddwyd ef ym Meddgelert ar 19 Mawrth. Cynhyrchodd gryn lawer o farddoniaeth a rhyddiaith a chyfrannodd erthyglau lawer i Cymru, Y Genedl Gymreig, a chylchgronau eraill. Cyhoeddodd hefyd ei ' Adgofion ' o'i ffrind Owen Wynne Jones ('Glasynys'), a golygodd ddetholiad o'i farddoniaeth a'i ryddiaith yn Yr Wyddfa. Gwnaed cais aflwyddiannus i sicrhau iddo bensiwn gan y Llywodraeth ar sail ei waith llenyddol. Ceir enghraifft o'i waith yn NLW MS 2856B .
Mab iddo oedd JOHN OWEN, ' Ap Glaslyn ' (1857 - 1934), cerddor, llenor, a gweinidog; ganwyd ym Meddgelert 6 Mai 1857. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, bu'n ddisgybl-athro, ac yna'n gweithio yn chwareli Ffestiniog a Llanberis. Bu blynyddoedd ei febyd yn llawn rhamant. Llwyddodd fel adroddwr ac actiwr a datganwr o fri. Wedi hynny bu'n areithiwr dylanwadol ar lwyfan dirwest ac yn ystod Diwygiad 1904-5 ac wedi hynny bu'n efengylydd effeithiol. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1919, a bu'n gofalu am achos Saesneg Gelli, Rhondda, ac yn ddiweddarach galwyd ef i fugeilio eglwys Gymraeg, Llanbradach, ac yno y bu hyd ei farwolaeth 16 Ebrill 1934. Ysgrifennodd i gylchgronau Cymraeg, ac yn 1876 cyhoeddodd gyfrol o'i weithiau Y Llenor Ieuanc a Pryddest: Y Dymhestl. Cyfansoddodd y geiriau a'r tonau i nifer o ganeuon poblogaidd, ac yn ystod y Diwygiad medrai siglo cynulliadau wrth eu canu. Priododd Elizabeth Trefor, merch William a Jane Trefor, Llanberis, a bu iddynt chwech o blant.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.