Ganwyd 26 Hydref 1861 yn y Carneddi, plwyf Nantmor, heb fod ymhell o Feddgelert, yn fab i Morris a Mary Griffith. Yn y fferm lle y ganwyd ef ac y bu ei hynafiaid yn byw ynddi am genedlaethau, y treuliodd yntau ei oes hyd 1945 pryd y symudodd ef a'i wraig i dy eu mab yn Hinckley, swydd Gaerlŷr.
Addysgwyd 'Carneddog' yn ysgolion William Ellis yn Nantmor a George Thomas ym Meddgelert. Ffermwr defaid ydoedd wrth ei ddiwrnod gwaith, ond fel llenor a newyddiadurwr y daeth yn adnabyddus. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn ieuanc. Bu'n ysgrifennu i Baner ac Amserau Cymru, Y Genedl Gymreig, a'r Herald Cymraeg o tua 1881 ymlaen; darllenid llawer ar ei 'Manion o'r Mynydd' yn yr Herald Cymraeg. Ysgrifennai hefyd i Cymru (O.M.E.), Bye-Gones, etc. Cyhoeddodd gofiannau i Richard Owen ('Glaslyn'), Richard Morris ('Yr Hên Lanc'), ' Tegfelyn ', a John Jones ('Jac Glan-y-Gors'); tri o lyfrau i adroddwyr; Blodau'r Gynghanedd, Cerddi Eryri, a Ceinion y Cwm, etc. Yr oedd yn esiampl ardderchog o hanesydd lleol a llenor-cefn-gwlad gwybodus, diwylliedig, a chymwynasgar. Casglai lyfrau a llawysgrifau (gweler NLW MS 7234-7253 , a NLW MS 8404B ). Priododd 11 Ionawr 1889 Catherine, merch Cadwaladr Owen, Nantmor, a bu iddynt 2 fab. Bu farw 25 Mai 1947 yn Hinckley a chladdwyd ef ym mynwent Beddgelert.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.