Ganwyd yn Ucheldre, plwyf Llanfihangel y Creuddyn, Sir Aberteifi, 19 Ionawr 1826. Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc, ac enillodd am gyfansoddi tôn yn 12 oed. Ym Moliant Israel (' Canrhawdfardd ') ceir dwy dôn o'i waith, ac ymddangosodd dwy arall ynghyd â chynganeddiad o'r alaw ' Y Delyn Aur.' Gadawodd lawer o gerddoriaeth mewn llawysgrif ar ei ôl. Bu farw 30 Gorffennaf 1884 yn Cnwch Coch, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfihangel-y-Creuddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.