na chafwyd ond dau ddarn o'i waith yn y llawysgrifau, sef dau englyn. Cafwyd hefyd englyn dienw ' i Elis drwynhir pan aeth yn faili sir.' Rhydd Henry Blackwell fardd o'r enw Elis ab Ifan ap Rhicart neu Elis ab Ifan Drwynhir y dywedir iddo flodeuo c. 1600. Ceir yn Enwogion Cymru fardd o'r enw Elis ab Ieuan ap Rhisiart neu Elis ab Ifan Drwyndwn, y dywedir iddo flodeuo ar ddiwedd yr 16eg ganrif. Y mae'n debyg mai un person sydd gan y ddau hyn, ac efallai hefyd mai hwn yw'r bardd Elis Drwynhir.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.