Ganwyd 19 Medi 1832, ym Melin y Coed gerllaw Machynlleth. Er ei fod o deulu tlawd cafodd gymorth i gael addysg dda a graddio. Bu'n cadw Ysgol Genedlaethol a oedd dan nawdd Syr Robert Williames Vaughan, barwnig, Nannau, Sir Feirionnydd; wedyn bu'n ysgolfeistr cyntaf Ysgol Brydeinig Nant Peris, Sir Gaernarfon. Yn 1853 ymfudodd i U.D.A. Bu'n byw yn Pennsylvania, yn Utica, N.Y., lle yr oedd yn olygydd Y Gwyliedydd, a bu yn New York am dymor yn golygu Y Drych a'r Gwyliedydd. Symudodd o New York i West Bangor, Pa., i gadw ysgol; yno y dechreuodd bregethu. Ordeiniwyd ef yn 1865. Bu'n gweinidogaethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd mewn gwahanol fannau - Ebensburg, Pa.; Hyde Park, Pa.; Bangor, Pa.; Cincinnati, Ohio; etc.; yna aeth tua'r gorllewin i fod yn weinidog yn San Francisco a hefyd yn Coal Creek, Colorado. Pan ffurfiwyd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A. yn Columbus, Ohio, yn 1869, dewiswyd ef yn ysgrifennydd. Bu'n golygu neu'n cydolygu Y Cyfaill, Baner America, a Blodau yr Oes a'r Ysgol; yr oedd yn gyd-berchennog y trydydd o'r rhain. Bu farw 1 Mehefin 1901 yn Pueblo, Colorado.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.