ail fab John Ellis, Rhyllech, Pwllheli (J. E. Griffith, Pedigrees, 398). Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1840 (o ysgol Biwmares), graddiodd yno yn 1843 (meddai ef, ond 1844 sydd gan Foster), ac yn Rhydychen daeth yn drwm dan ddylanwad Mudiad Rhydychen - efe wedyn oedd un o arloeswyr pennaf y mudiad hwnnw yng Ngwynedd. Urddwyd ef yn 1846, ac yn 1847 aeth i Gaergybi yn gurad i Charles Williams (pennaeth Coleg Iesu wedyn). Penodwyd ef yn 1850 i ofalaeth Llanfaes a Phenmon, ac yn 1862 i reithoriaeth Llanfairfechan, yno y bu (gan wrthod deirgwaith ei godi'n ddeon yng Nghymru) hyd ei farwolaeth 10 Mai 1900. Arddelodd fawr sêl yn hyrwyddo cynnal gwasanaeth beunyddiol yn yr eglwysi, eu hailddodrefnu, a newid eu defodau. Mor ddigymrodedd oedd ei gatholigiaeth fel na fynnai gydweithredu mewn unrhyw fodd ag Ymneilltuwyr - yn hyn o beth, anghytunai â rhai offeiriaid hŷn nag ef; heblaw hynny, bu mewn dadl bur boeth â'i esgob, Christopher Bethell. Yr oedd Bethell ei hunan yn Eglwyswr 'Uchel,' ond cyhuddodd Ellis o godi cynnwrf, drwg ei effeithiau. Ni lwyddodd, fodd bynnag, i'w ddisgyblu, yn wyneb y gefnogaeth a gafodd Ellis gan nifer o glerigwyr dylanwadol yr esgobaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.