Ganwyd yn Werngrug, plwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd - ei dad, Evan Ellis, yn frawd i Ellis Evans, Cefn Mawr. Ymfudodd gyda'i rieni i U.D.A. yn 1850, a bu'n byw yn Remsen (N.Y.), Waukesha (Wisconsin), Berlin (Wisconsin), etc. Dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr c. 1866 yng nghylchoedd Cymreig Waukesha. Bu yn academi Beaver Dam (Wisconsin). Ymunodd â chatrawd 22 Gwirfoddolwyr Wisconsin, a chan iddo ei brofi ei hun yn filwr dewr ym mrwydr Rasaca dyrchafwyd ef i fod yn swyddog. Cafodd ail gwrs o addysg yn athrofa Madison; bu hefyd yn Chicago yn efrydu diwinyddiaeth. Bu'n weinidog yn Eaglewood (Illinois), Milwaukee, a mannau eraill. Bu'n ysgrifennydd y genhadaeth gartrefol yn nwy dalaith Dakota, Michigan, Ohio, ac Indiana, a sefydlodd lawer o eglwysi. Cychwynnodd a golygodd newyddiadur wythnosol crefyddol, sef The Chronicle (Kansas City). Bu farw ym mis Hydref 1892 a chladdwyd ef yn Milwaukee.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.