Ganwyd 23 Mai 1860, yn Birmingham, lle'r oedd ei dad, Thomas Morris Griffith, yn adeiladydd. Ymneilltuodd y tad a symudodd y teulu i Fôn pan oedd Ellis Griffith yn blentyn, i fyw yn y Ty Coch, Brynsiencyn. Bu yn ysgolion Brynsiencyn a Holt, ac yr oedd yn un o do cyntaf efrydwyr Coleg Aberystwyth. Graddiodd ym Mhrifysgol Llundain yn 19 oed. Enillodd ysgoloriaeth agored i Goleg Downing, Caergrawnt, yn 1880; graddiodd oddi yno yn y dosbarth cyntaf yn y 'Law Tripos.' Bu'n llywydd yr 'Union' yng Nghaergrawnt ac etholwyd ef yn gymrawd ei goleg. Galwyd ef at y Bar yn y Middle Temple yn 1887 ac ymunodd â chylchdaith Gogledd Cymru a Chaer. Penodwyd ef yn gofiadur Birkenhead yn 1907, swydd a ddaliodd hyd 1912, ac yn K.C. yn 1910. Fel cyfreithiwr ac fel siaradwr ar y llwyfan nodweddid ef gan arabedd disglair a'r gallu i lunio brawddegau cyrhaeddgar. Bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn Toxteth, Lerpwl, yn 1892. Yn etholiad cyffredinol 1895 etholwyd ef yn aelod Rhyddfrydol dros Fôn, a daliodd y sedd hyd 1918, pan orchfygwyd ef gan y diweddar gadfridog Syr Owen Thomas, yr ymgeisydd Llafur. Yn 1912 dewiswyd ef yn gadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd, yn olynydd i Syr Alfred Thomas pan aeth hwnnw i Dy'r Arglwyddi fel arglwydd Pontypridd. Yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn is-ysgrifennydd y Swyddfa Gartref, a bu iddo ran amlwg mewn llywio Mesur Datgysylltiad trwy Dy'r Cyffredin. Ymddiswyddodd yn 1915. Gwnaed ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1914 ac yn farwnig yn 1918. Wedi colli sedd Môn dewiswyd ef yn ymgeisydd Rhyddfrydol drachefn, ond ymddiswyddodd yn 1921. Yn 1922 bu'n ymgeisydd, yn un o dri, am sedd Prifysgol Cymru, eithr ni lwyddodd. Yn Rhagfyr 1923 etholwyd ef yn aelod Rhyddfrydol dros ranbarth Caerfyrddin, ond ymneilltuodd yn 1924 a daeth ei yrfa seneddol i ben. Bu farw yn sydyn iawn yn Abertawe, yn ystod dyddiau'r frawdlys yno, 30 Tachwedd 1926, a chladdwyd ef ym mynwent Llanidan, Brynsiencyn. Priododd yn 1892, Mary, merch y Parch. Robert Owen, Ty Draw, yr Wyddgrug. Bu ganddynt ddau fab a merch. Un o'r plant yn unig, ELLIS ARUNDELL, a'i dilynodd yn y teitl, a oroesodd eu tad; bu farw yntau ym mis Mehefin 1934. Bu Lady Ellis-Griffith farw yn 1941.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.