ELLIS, RICHARD (1784 - 1824), swyddog cyllidfa a cherddor

Enw: Richard Ellis
Dyddiad geni: 1784
Dyddiad marw: 1824
Rhiant: Lewis Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog cyllidfa a cherddor
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Cerddoriaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 24 Ionawr 1784, mab Lewis Ellis, Llansadwrn, organydd eglwys Biwmares. Yr oedd yn un o gerddorion gorau'r cyfnod. Yn 1800 penodwyd ef yn olynydd i'w dad fel organydd eglwys Biwmares, a llanwodd y swydd hyd ei farwolaeth. Yn 1821 gorffennodd gasglu ' Llyfr Tonau a Salmau Cymreig ' at wasanaeth yr Eglwys yng Nghymru, a chafodd ganiatâd esgob Bangor i'w gyhoeddi, ond ni wyddys beth a ddaeth o'r casgliad. Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol hefyd. Bu farw 10 Rhagfyr 1824, a chladdwyd ef ym mynwent Biwmares.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.