Ganwyd 12 Rhagfyr 1808 yn Celyn Isaf, Llanddeiniolen, yn fab i Ellis Evans a'i wraig Jane Williams; bu'n rhaid i'r tad ffoi i Ferthyr Tydfil ar adeg helynt cau comin Llanddeiniolen (1809), ond dychwelodd i fyw i'r Garnedd, y 'tŷ unnos' a godasai ar y comin. Yn 18 oed, aeth Robert Ellis i weithio yn chwarel Cae-braich-y-cafn, ond tua'r 20 symudodd i chwarel Dinorwig, ac yn 1829 ymunodd ag eglwys Ysgoldy. Yn 1832 aeth am bum mis i ysgol John Hughes (1796 - 1860) yn Wrecsam; yna, chwiliodd am waith yn Lerpwl, ond methodd, a cherddodd adre. Dechreuodd bregethu yn 1834; yn 1837 agorodd siop yng Nghlwt-y-bont. Ordeiniwyd ef yn 1842, ac yn yr un flwyddyn priododd â Jane Evans o Harlech; cawsant chwech o blant. Ar wahân i ambell daith bregethu, yng nghylch Arfon y llafuriodd ar hyd ei oes. Rhoes ei fasnach (nad oedd wedi dwyn fawr elw iddo) i fyny yn 1868, ac aeth ef a'i wraig i fyw i dŷ capel Ysgoldy - ' Robert Ellis, Ysgoldy ' yw'r enw cyffredin arno; o hynny hyd 1879 yr oedd yn weinidog swyddogol Ysgoldy a Bryn'refail. Bu farw 24 Medi 1881, a chladdwyd yng Nghlwt-y-bont. Yr oedd naws hanesydd ynddo, a rhoes ar glawr gryn swm o hanes Methodistiaeth Arfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.