ELLIS, THOMAS (c. 1819 - 1856), dwyreinydd

Enw: Thomas Ellis
Dyddiad geni: c. 1819
Dyddiad marw: 1856
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dwyreinydd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Bleddyn Jones Roberts

Ganwyd yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn, tua 1819, a chan nad oes gyfeiriad ato yng nghofrestr y plwyf, y mae'n debyg iddo gael ei fedyddio yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yno. Mynychai ysgol Morris Davies, ond disgybl gwan ydoedd, ac ymunodd â'i dad fel crydd. Wedi hynny crwydrodd i Lerpwl; yno ymddiddorodd mewn ieithoedd dwyreiniol. O 1848 hyd 1850 dywedir iddo gynorthwyo Samuel Bagster i baratoi ei brif weithiau Hebraeg, gan gynnwys Analytical Hebrew and Chaldee Lexicon. ond gwyddom iddo hefyd grwydro yn y Dwyrain yn yr un cyfnod. O Ragfyr 1850 hyd ei farw yn Rhagfyr 1856 cyflogwyd ef ar uwchrif yn yr Amgueddfa Brydeinig i restru llawysgrifau Syrieg, ond y mae'n amheus a fu ei waith o werth arbennig, oherwydd cawn Wright's Catalogue yn ei anwybyddu ond yn canmol gwaith ei ragflaenydd Cureton yn dra uchel. Ar y llaw arall, cawn Layard, yn y rhagair i Discoveries in the Ruins of Nineveh and Babylon, 1853, yn ei gydnabod am gyfarwyddyd gwerthfawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.