EVANS, BENJAMIN ('Telynfab '; 1844 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur

Enw: Benjamin Evans
Ffugenw: Telynfab
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nowlais 2 Mai 1844. Aeth i athrofa Hwlffordd yn 1868. Bu'n weinidog yn Nhyddewi o 1871 hyd 1876, ac yna, hyd ei farw, ar eglwys y Gadlys, Aberdâr. Ei waith mwyaf nodedig yw ei gofiant, 1891, i'r Dr. Thomas Price (1820 - 1888). Bu farw 23 Awst 1900.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.