EVANS, DAVID (fl. 1750), bardd

Enw: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Elwyn Evans

o Goedbychan, Llanfair Caereinion. Yr oedd yn un o ddisgynyddion Wmffre Dafydd ab Ifan o Lanbrynmair. Ymddangosodd rhai o'i gerddi yn almanaciau Evan Davies ('Philomath'). Ceir un o'i gerddi, 'Chwech o Benhillion a ddanfonwyd mewn llythyr o Flanders yn amser y Frenhines Anne, at fy Mam, ac mi welais gyffhelyb i'r peth ar ôl hynnu yn Flanders yn amser Brenhin George yr Ail, ar Galon Drom,' yn NLW MS 14402B .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.