EVANS, DAVID (‘Dewi Dawel’; 1814 - 1891), teiliwr, tafarnwr, bardd, etc.

Enw: David Evans
Ffugenw: Dewi Dawel
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1891
Priod: Mary Evans (née Davies)
Plentyn: William Caradawc Evans
Plentyn: Dafydd Evans
Plentyn: Thomas Morgan Evans
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: teiliwr, tafarnwr, bardd, etc.
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: David Goronwy Griffiths

Ganwyd 16 Medi 1814 yn Cefnffordd, Penygarn, plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Bu i'w dad, Thomas Evans, teiliwr, foddi yn afon Cothi ger Rhydodyn, 9 Rhagfyr 1833, gan adael naw o blant. Bu ‘Dewi Dawel’ yn gweithio fel teiliwr o dŷ i dŷ. Priododd, 10 Tachwedd 1837, Mary Davies, Maesyrhaidd, Llanfynydd (bu farw 7 Mai 1867), a bu iddynt 10 o blant. Dechreuodd fusnes drwy gadw gweithdy teiliwr, siop, a thafarn ym mhentre Cwmdu, plwyf Talyllychau. Llwyddodd drwy hunan-ddiwylliant i ddysgu Saesneg a rheolau barddoniaeth Gymraeg. Bu'n dreth-gasglydd am 20 mlynedd hyd 1881 ac yn glerc i bwyllgor ysgol Cwmdu hyd nes sefydlu'r bwrdd ysgol dros y plwyf yn 1871. Yr oedd y pryd hwnnw 60 o blant yn ysgol Cwmdu a 120 yn ysgol Talyllychau. Ef oedd yr unig Undodwr yn yr ardal, a bu'n ohebydd ffyddlon i'r Ymofynydd. Bu'n cystadlu a beirniadu mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol yn yr ardal. Mae casgliad o'i weithiau barddonol ynghyd â phamffledi, ysgrifau, tonau, cyfarwyddiadau meddygol ac amaethyddol, a manion eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ymhlith ei weithiau argraffedig y mae traethawd (buddugol yn eisteddfod Llandeilo) ar ddyletswydd rhieni i roddi addysg dda i'w merched, a chân ‘ar waith Mr. Herbert Davies, Edwinsford Arms, yn lladd dau gadno a'i nerth ei hun.’ Cyfansoddodd englynion i ofyn am y gyfrol gyntaf o Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (Edward Williams, ‘Iolo Morganwg’). Adargraffwyd yn The Life and Work of William Williams, M.P. (gan Daniel Evans, 1939), nifer o benillion o'i waith ar ‘addysgiaeth yng Nghymru’ yn dilyn yr adroddiad ar addysg a elwir ‘Brad y Llyfrau Gleision.’ Cymerodd ddiddordeb yn hanes plwyf Talyllychau, a gohebodd ag Alcwyn C. Evans (Caerfyrddin), a David Lewis Jones (ficer Myddfai), ac eraill. Ychydig cyn ei salwch olaf dAnfonodd draethawd ar hanes y plwyf i eisteddfod a gynhaliwyd 24 Ebrill 1891. Yr oedd dau o'i feibion yn ysgolfeistri, THOMAS MORGAN EVANS (1838 - 1892) yng Nghwmdu, a DAFYDD EVANS (1842 - 1893) yn Nhalyllychau. Mab arall oedd WILLIAM CARADAWC EVANS (‘Gwilym Caradog’; 1848 - 1878). Mae casgliad bychan o benillion yr olaf a nodiadau ar y mesurau Cymreig o dan y teitl ‘Ysgol y beirdd,’ a'r dyddiad 27 Awst 1871, yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw 20 Rhagfyr 1891, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfynydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/