EVANS, ALCWYN CARYNI (1828 - 1902), hynafiaethydd

Enw: Alcwyn Caryni Evans
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1902
Priod: Mary Evans (née Thomas)
Priod: Elizabeth Amelia Evans (née Morgan)
Plentyn: Eleonora Imogen Evans
Plentyn: Marian Sophia Evans
Rhiant: Sophia Evans
Rhiant: Evan Donard Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: Bertie George Charles, Morfudd Nia Jones

Ganed yng Nghaerfyrddin ar 14 Mai 1828, yr ail o 7 plentyn Evan Donard Evans (1796 - 1877) a'i wraig Sophia Evans (1800-1844). Yr oedd ei dad yn ysgolfeistr adnabyddus a addysgwyd yn Taunton a Choleg Manceinion, Efrog, ac a adnabuwyd ar led fel 'Evans of York'. Cadwai ysgol breifat ym Mhontantwn, plwyf Llangyndeyrn yn 1822, cyn symud i Gaerfyrddin, i Wood Street yn gyntaf, ac ar ôl 1831 i hen dŷ-cwrdd y Crynwyr yn Heol Awst, Caerfyrddin.

Nid yw Alcwyn Evans yn cyfeirio at ei addysg, ond tybir iddo fod yn ddisgybl yn ysgol ei dad. Ysgolfeistr ydoedd fel ei dad, ac am oddeutu 40 mlynedd cadwai ysgol ganolradd, ' The Carmarthen Academy,' yn Heol Awst, ac ar ôl dydd ei dad, yn hen dŷ-cwrdd y Crynwyr. Roedd yn hyddysg mewn Lladin a Groeg, ac yn gyfarwydd â nifer o ieithoedd eraill hefyd. Dywedir iddo fod yn athro cydwybodol a reolai'r dosbarth gyda disgyblaeth gadarn, gan fynnu'r gorau o'i ddisgyblion. Disgrifir ef fel dyn corfforol cryf a nerthol gyda llaw wywedig, ond mae'n amlwg o hanesion ei ddisgyblion iddo fod yn medru ei chwipio o gwmpas yn effeithiol fygythiol pan fo angen.

Er yn ieuanc iawn dangosodd Alcwyn Evans ddiddordeb mewn hanes lleol, a chasglodd doreth o ddeunydd hanesyddol am dref a sir Gaerfyrddin. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1867 enillodd y brif wobr lenyddol am ei 'History of Carmarthenshire'. Dichon taw'r hanes yma (NLWMS 12369-12371B) oedd un o'i drysorau mwyaf gwerthfawr, a pharhaodd i ychwanegu manylion ato hyd ei farw.

Yn gasglwr trefnus a gofalus gyda chymhelliad cryf i chwilio a darganfod, gwnaeth Alcwyn Evans fwy nag unrhyw un arall i ymchwilio i hynafiaethau tref a sir Gaerfyrddin yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ei ugeiniau gwnaeth adysgrifiad o gofnodion yn ymestyn o 1590-1756 o Lyfr Ordinhadau bwrdeistref Caerfyrddin, ac yn 1878 golygodd Royal Charters … of the Town and County of Carmarthen, gan J. R. Daniel-Tyssen. Golygodd a gwnaeth nodiadau hefyd o Rôl Siarter Caerfyrddin, gan ychwanegu data cyfoes, ynghyd a chasglu adluniau o lofnodion meiri Caerfyrddin o'r flwyddyn 1400. Defnyddiwyd ei nodiadau ar wrthryfel Beca yn y llyfr Rebecca and her daughters (Caerdydd, 1910) gan H. Tobit Evans.

Yr oedd hefyd wrth ei fodd yn casglu achau, gan ganolbwyntio'n bennaf ar achau hen deuluoedd De Cymru a thref a sir Gaerfyrddin, gan ychwanegu atynt yn aml a'u dwyn i lawr hyd at ei gyfnod ef ei hun. Mewn erthygl yn y Carmarthen Journal, 11 Awst 1939, dywed rhyw 'E.J.W.' “mae'r llyfrau yma o werth amhrisiadwy i'r achyddwr, gan eu bod yn diweddaru achau'r Cymry bonheddig a'u gwneud yn gyfoes.”

Mewn ysgrif goffa iddo, dywed y Parch M. H. Jones, hynafiaethydd o Gaerfyrddin bod y “llawysgrifau manwl, trwyadl, coeth a adawodd ar ei ôl yn rhyfeddod o fedr ac ysgolheictod … roedd Mr Evans yn ddiamheuol yn un o'r ychydig awdurdodau y gellid cysylltu ag ef am achau, ewyllysiau hynafol, dogfennau a chyfeiriadau eraill yn ymwneud â hanes y sir” (Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society, cyf. 2, t.110). Ym 1906, disgrifiodd Messrs W. Spurrel & Son, a oedd a bwriad i'w cyhoeddi, gynnwys y llawysgrifau fel “nifer fawr o ddeunydd hanesyddol ac achyddol, a gasglwyd yn ofalus o nifer o ffynonellau, ynghyd ac adysgrifau a chyfieithiadau o ddogfennau hen a phrin, gyda nodiadau trylwyr a gofalus.” (Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society, cyf. 2, t.153).

Roedd Alcwyn Evans a'i dad yn Undodwyr selog, a daeth Alcwyn Evans yn hwyrach yn ei oes yn Undebwr Rhyddfrydol cadarn. Yr oedd yn aelod o'r Cambrian Archaeological Association a'r Carmarthen Literary and Scientific Institution. Am flynyddoedd bu'n gyfrifol am baratoi llyfrau trethi tref Caerfyrddin.

Bu'n briod dwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Elizabeth Amelia Rees (bu farw 1867), merch i John Morgan, a gweddw tafarnwr y Castle yn Stryd y Prior, Caerfyrddin, a bu'r ddau yn cadw'r Castle Inn yn Heol y Prior am gyfnod, ac yna'r Bird in Hand yn Heol Ioan, Caerfyrddin. Ni fu iddynt blant. Priododd a'i ail wraig Mary (1835-1884) ym 1870, yr oedd hi'n ferch i William Thomas, rhaffwr o Lanymddyfri a oedd yn nai i Thomas Charles o'r Bala. Cawsant ddwy ferch, Marian Sophia (ganwyd 1872) ac Eleonora Imogen (ganwyd 1874).

Bu farw Alcwyn Evans ar yr 11eg o Fawrth 1902 yn ei gartref yng Nghaerfyrddin. Gwasgarwyd ei bapurau ar ôl ei farw. Daeth ei gasgliad o gyfrolau llawysgrif “mewn ysgrifen gain wedi eu mynegeio'n ofalus” i lyfrgell Syr Evan Davies Jones, Pentŵr, Abergwaun, ac yng Ngorffennaf 1939 prynwyd y casgliad yn Sotheby's, Llundain ar ran yr Henadur R. J. R. Loxdale, Castle Hill, Llanilar, Sir Aberteifi, a gyflwynodd y cyfan yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW MSS 12356-88 ).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.