Ganwyd yn Fronfelenganol, Penbryn, Sir Aberteifi. Wedi iddo fod yng Ngholeg Normal Bangor, bu'n bennaeth Ysgol Frutanaidd Llechryd am saith mlynedd. Daeth yn newyddiadurwr a gwleidyddwr a bu'n ' Olygydd Llundain ' i'r Kelt ('Kelt Llundain').
Dysgodd argraffu ar wasg a osododd i fyny yn ei dŷ ei hun (Neuadd Llanarth, Sir Aberteifi), a bu'n cyhoeddi ei newyddiadur wythnosol ei hun, Y Brython Cymreig, o 1892 hyd 1902. O tua Mehefin 1898 (efallai yn gynt) hyd 1904 bu'n golygu The Carmarthen Journal. Yr oedd yn ysgrifennydd mygedol i Cymdeithas Unoliaethwyr Rhyddfrydol Sir Aberteifi. Cyfrifid ef yn awdurdod ar enwau lleoedd Cymreig, ac ato ef y byddai awdurdodau'r ' Ordnance Survey ' yn troi am gyfarwyddyd ynglŷn â chywirdeb y dull o argraffu'r enwau a roddid ar fapiau. Ysgrifennodd Y Berw Gwyddelig, 1889, eithr ei waith mwyaf adnabyddus ydoedd Rebecca and Her Daughters, 1910, which utilized the collections of Alcwyn C. Evans, llyfr sydd yn taflu llawer o olau ar hanes cymdeithasol de-orllewin Cymru. Yr oedd yn Grynwr. Bu farw yn Trewylan, Sir Aberteifi, 9 Mai 1908, yn 64 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.