Ganwyd 18 Ebrill 1859, mab Thomas Jones, capten llong, Aber-gwaun, a'i wraig Martha Philipps. Cafodd ei addysgu yn ysgol genedlaethol Aber-gwaun, yn breifat, ac yng ngholeg prifathrofaol Bryste (Prifysgol Bryste erbyn hyn). Penderfynodd fyned yn beiriannydd sifil a bu'n gweithio ar dwnel Hafren ac ar gamlas llongau Manceinion. Yn ddiweddarach daeth yn aelod o ffyrm Topham, Jones, a Railton, ac ymhen rhai blynyddoedd yn bennaeth y ffyrm honno a fu'n gyfrifol am lawer math o waith pwysig - yn Gibraltar, porthladd Aber-gwaun, Singapore, argae Aswan yn yr Aifft, &c. Yr oedd yn aelod o'r Institute of Civil Engineers ac yn 1935 a 1936 efe oedd llywydd y Federation of Civil Engineering Contractors. Yn ystod y Rhyfel Mawr cyntaf daeth yn uch-gapten yn ' Engineer and Railway Staff Corps ' y Royal Engineers (T.F.), yr oedd yn un o dri aelod pwyllgor a ddewiswyd i ddelio â phroblem cael pobl (heb fod yn y lluoedd arfog) i gynorthwyo gyda'r gwaith o amddiffyn Llundain, bu'n rheolwr ('Controller') petrol, 1917-18, ac yn ' Commissioner of Dyes ' o dan y Bwrdd Masnach, 1917-19; cadeirydd y Road Transport Board, 1918-19; efe ydoedd rheolwr y glofeydd yn 1919.
Rhoes Syr Evan Jones (fe'i gwnaethpwyd yn farwnig yn 1917) wasanaeth i'w sir enedigol ac i Gymru 'n gyffredinol mewn amryw gylchoedd. Bu'n siryf sir Benfro, 1911-12, daeth yn gadeirydd ei chyngor sir yn 1926, yr oedd yn un o ddirprwy-raglawiaid y sir a gwnaethpwyd ef yn arglwydd-raglaw yn 1932, a bu'n cynrychioli'r sir yn y Senedd fel Rhyddfrydwr ('Coalition') o fis Rhagfyr 1918 hyd fis Hydref1922. Gwasanaethodd yr Eglwys yng Nghymru (yn enwedig fel cadeirydd pwyllgor ariannol Corff Cynrychioliadol yr Eglwys), Prifysgol Cymru, a choleg y Brifysgol, Aberystwyth. Yr oedd ei wasanaeth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn nodedig am ei hyd a'i ymroddiad. Yr oedd yn aelod gwreiddiol (1907) o Lŷs y Llyfrgell a pharhaodd yn aelod o'r Llŷs hyd ei farw, gan ddal amryw swyddi - cadeirydd y pwyllgor adeiladu, trysorydd ac is-lywydd. Daeth yn aelod dros-oes o'r Llys yn rhinwedd ei roddion i'r Llyfrgell - prynodd a rhoes i'r Llyfrgell gasgliadau Compton House (Aberaeron), a Llywarch Reynolds, Merthyr Tudful, heblaw rhoddi hefyd amryw bethau o'i lyfrgell breifat ei hun (yr oedd yn gasglwr ar râdd helaeth), yn enwedig ei gasgliadau mawr o blatiau llyfrau. Y mae cerflun (1924) ohono (gwaith Syr William Goscombe John), a darlun ohono mewn olew (1929) yng nghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1927 rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. ('er anrhydedd') iddo. Yr oedd hefyd yn ' Officer of the Order of the Nile '.
Priododd, (1) 1884, Cecilia Ann Evans, merch Jacob Evans, Sain Ffagan, Sir Forgannwg, a (2) 1914, Lily Ann Railton, merch James Railton, Malpas, sir Fynwy. Bu iddo dri mab (eithr collodd dau o'r meibion eu bywydau yn y Rhyfel Mawr cyntaf) a thair merch o'r briodas gyntaf. Bu farw 20 Ebrill 1949, a chladdwyd ef yn Aber-gwaun.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.