EVANS, DAVID (1842 - 1914), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1914
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 15 Ionawr 1842 yn Penybontfawr, Sir Drefaldwyn. Bu'n gweithio yn ffatri ei dad ac yr oedd yn un o'r rhai y dylanwadwyd arnynt gan ddiwygiad crefyddol 1859. Dechreuodd bregethu yn Llanfyllin. Aeth i ysgol yn Llundain, lle yr oedd ei frawd Owen Evans (1829 - 1920), yn weinidog, i baratoi ar gyfer coleg. Bu yn athrofa'r Bala, 1860-3. Bu'n weinidog yn Rhosymedre, 1863-9, y Bermo a'r Cytiau, 1870-2, Cymer (Rhondda), 1872-6, Pentre (Rhondda), 1876-82, Heol Awst (Caerfyrddin), 1882-1907. Bu'n golygu Y Dyddiadur Annibynnol am rai blynyddoedd. Cyhoeddodd Cofiant y Gŵr Hynod , Cymeriadau Hynod , a Cymeriadau a Chymanfaoedd. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn bregethwr naturiol a hoffai draethu ar hanesion, digwyddiadau, a chymeriadau yr Hen Destament. Bu farw 22 Mawrth 1914.

Brawd arall iddo oedd Thomas Evans (1844 - 1922).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.