Ganwyd 19 Tachwedd 1829 yn Penybontfawr, Sir Drefaldwyn. Hanai o deulu crefyddol iawn - yr oedd yn gâr i Ann Griffiths o ochr ei fam. Bu'n dilyn crefft ffatrïwr yn ifanc. Daeth yn aelod crefyddol yn Llanfyllin pan oedd yn 16 oed. Bu yn yr ysgol gyda ' Ieuan Gwynedd ' am ysbaid ac yn cadw ysgol yn yr un man yn ddiweddarach. Dechreuodd bregethu yn Llanfyllin, a bu'n gweinidogaethu yn Berea, Môn, 1853-4; Maentwrog, 1854-6; Fetter Lane, Llundain, 1856-63; Brymbo a Wrecsam, 1863-7; Llanbrynmair, 1867-81; Fetter Lane (eilwaith) gyda King's Cross, 1881-1906. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1900 a bu'n preswylio yn Lerpwl, 1901-18, a Llundain, 1918-20. Derbyniodd flwydd-dâl o'r ' Civil List ' yn 1920. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1887.
Darlithiodd lawer ar y Beibl a throes rai o'i ddarlithiau yn gyfrolau argraffedig - e.e. Gwyrthiau Crist, 1868; Dammegion yr Arglwydd Iesu, 1873; Oriau gyda'r Iesu, 1882; Merched yr Ysgrythyrau a Sêr y Dwyrain, 1886; Geiriau Olaf Iesu Grist, 1887; Yr Aberthau, 1889; Bywgraffiadau'r Beibl a Phregethau Eraill, 1899. Nid oedd yn bregethwr huawdl fel rhai o'i gyfoeswyr, ac ni ragorai mewn arddull lenyddol yn ei weithiau. Bu farw 1 Mehefin 1920.
Brodyr iddo oedd David Evans (1842 - 1914) a Thomas Evans (1844 - 1922).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.