pumed mab Charles Evan-Thomas a Cara Pearson, Gnoll, Castell Nedd; ganwyd yn Llwynmadoc, sir Frycheiniog, 27 Hydref 1862. Aeth i'r llynges yn 1876 ac ymuno â'r ' Britannia.' Gwasnaethodd ar nifer o longau, yn eu plith y ' Ramillies.' Yr adeg honno yr oedd arni nifer o swyddogion amlwg a daeth bob un ohonynt yn ddiweddarach yn llyngesydd o fri. Dyrchafwyd ef yn ' Commmander ' yn 1897 a'i benodi i ofalu am y 'signal school' ar y 'Victory' yn Portsmouth. Bu ei ddyrchafiad yn gyflym, fe'i gwnaed yn gapten yn 1902, bu'n ysgrifennydd i'r arglwydd Cawdor, prif arglwydd y Morlys, o 1905 hyd 1908, ac wedi hynny'n gapten ar y ' Bellerophon.' Bu am ddwy flynedd yn gofalu am y Royal Naval College, Dartmouth. Yn 1912 fe'i dyrchafwyd ef yn ôl-lyngesydd a chododd ei fflag ar y ' St. Vincent ' yn y ' battle squadron ' gyntaf. Yn 1915, gofalai am y bumed ' battle squadron ' â'i fflag ar y ' Barham,' a bu ganddo ran amlwg ym mrwydr Jutland, 31 Mai 1916. Fe'i penodwyd yn is-lyngesydd yn Medi 1917, yn 1919 fe'i gwnaed yn K.C.M.G., yn llyngesydd yn 1920, ac yn ' Commander-in-Chief ' ar y Nore. Ymneilltuodd yn 1924. Yn 1894 priododd Hilda, merch Thomas Barnard, Cople House, swydd Bedford; ni fu ganddynt blant. Wedi ymneilltuo bu'n byw yn Charlton, ger Shaftesbury, lle y bu farw 30 Awst 1928.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.