EVANS, JENKIN (1674 - 1709), gweinidog Annibynnol

Enw: Jenkin Evans
Dyddiad geni: 1674
Dyddiad marw: 1709
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn sir Forgannwg. Y mae ei hanes a'i addysg yn ei flynyddoedd cynnar yn anhysbys. Nid oes gofnod ar gael am ei drwyddedu i bregethu, ac nid yw ei enw ymhlith enwau disgyblion James Owen. Dilynodd James Owen yng Nghroesoswallt. Yr oedd yn bregethwr enwog a phoblogaidd, nid yn unig yn y dref ond yn y cwmpasoedd hefyd. Telir teyrnged uchel iddo am ei gymeriad unplyg a'i ddawn pregethu gan Mathew Henry. Cyfieithodd 'Catecism Byr i Blant ' gan Mathew Henry yn Gymraeg, a chyhoeddwyd y cyfieithiad yn Amwythig, 1708. Bu farw 19 Awst 1709. Pregethwyd yn ei angladd gan Mathew Henry.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.