Efallai ei fod yn fab Benjamin Evans, offeiriad yn Lydney, swydd Gloster. (Fe'i cymysgir weithiau â John Evans, ysgolfeistr ym Mryste, awdur llyfrau ynglyn a Bryste, a thraethodau athronyddol.) Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 1789, B.A., 1792).
Ychydig a wyddys am John Evans ar wahân i'w weithiau - pedwar llyfr yn disgrifio Cymru : (a) A Tour through part of North Wales in … 1798 and at other times: principally undertaken with a view to Botanical researches … (London, 1800; arg. eraill yn 1802 a 1804); (b) Letters written during a Tour through South Wales in … 1803 and at other times, … 1804; (c) ' Monmouthshire ' yng nghyfrol xi y gwaith a enwir The Beauties of England and Wales; a (ch) ' North Wales ' yng nghyfrol xvii yr un gwaith, 1812; yr oedd i ysgrifennu ar Dde Cymru i'r cyhoeddiad hwn, eithr bu farw ar ôl ysgrifennu cyfran fechan ohono. Er bod ei lyfrau yn llawn o fanylion diddorol, y mae'n amlwg fod mwy o ôl darllen ynddynt nag o ôl sylwadaeth wrth drafaelio. Er enghraifft y mae'r hyn a ddywed am weithiau glo yn Sir Benfro (yn y Tour through South Wales … 1804) yn aralleiriad o'r hyn a ysgrifenasid gan George Owen, Henllys, ddwy ganrif yn gynt. Bu farw c. 1812, h.y. cyn cyhoeddi cyfrol xvii y Beauties of England and Wales.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.