EVANS, JOHN (1779 - 1847), offeiriad a gweinidog Methodistaidd

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1847
Priod: Rachel Evans (née Davies)
Priod: Evans
Rhiant: Rachel Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a gweinidog Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd Hydref 1779, yng Nghwm-gwen, Llanfihangel Iorath, Sir Gaerfyrddin, mab John a Rachel Evans. Dygwyd ef i fyny ymhlith yr Annibynwyr, ond ar ôl gwrando ar Ddafydd Jones, Llan-gan, yn pregethu yng Ngwaun Ifor fe ymunodd â'r Methodistiaid yno, ac wedyn yn New Inn. Cafodd addysg gan rai o offeiriaid ei ardal. Bu'n cadw ysgol yn Llanpumpsaint ac yno, yn 1796, y dechreuodd bregethu. Aeth i athrofa Caerfyrddin yn 1798, ond ni wyddys pa hyd y bu yno. Priododd c. 1808, Mrs. Jones, gwraig weddw a drigai yn Llwynffortun, Llanegwad, yn nyffryn Tywi. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, c. 1809, gan yr esgob Watson, Llandaf, a bu'n gurad am dymhorau byr ym Mynyddislwyn, Casnewydd, Pen-y-bont, a Threlales. Cododd gwrthwynebiad yn ei erbyn oherwydd ei Fethodistiaeth a dychwelodd yntau i Lwynffortun. Bu am dymor eto yn gurad yn Llanddowror, eithr ni chafodd lawn urddau gan Eglwys Loegr. Bedyddiasai blant yn eglwys Heol-y-dwr cyn belled yn ôl â 1801, eithr yn 1811 cymerth ei ordeinio gan y Methodistiaid yn ordeiniad cyntaf y Corff yn Llandeilo Fawr. Ei ail wraig oedd Rachel, merch John Davies, Pen-twyn, Llanonn, Sir Gaerfyrddin, ac yn ei chartref hi y treuliodd flynyddoedd olaf ei oes.

Ni bu neb o'i genhedlaeth yn fwy poblogaidd nag ef dros Gymru oll. Creadur od ydoedd. Câi adegau o bruddglwyf. Ond ar gyfrif ei ymddangosiad boneddigaidd, hynawsedd ac addfwynder ei ysbryd, pereidd-dra'i lais, a phertrwydd ei ymadrodd, yr oedd yn anwylddyn ei wrandawyr. Gallai'r ‘hen Lwynffortun,’ fel y gelwid ef, yrru cynulleidfa i berlewyg ysbrydol â melystra'i ddawn. Bu farw 6 Hydref 1847, a chladdwyd ef ym Mhen-twyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/