mab John Evans, Tanycoed, Llanfair, Meirionnydd, ac Ann, merch John Owen, Crafnant, Llanfair. Addysgwyd ef yn ysgol Biwmares. Aeth i swyddfa'r cyfreithiwr David Williams, aelod seneddol dros sir Feirionnydd, ac oddi yno i Goleg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd (B.A.) yn 1841. Ordeiniwyd ef i guradiaeth Llanbedr y Cennin (Sir Gaernarfon); mudodd i guradiaeth Pentrefoelas (sir Ddinbych); 1857, rheithor Machynlleth a deon gwlad Cyfeiliog; 1862, rheithor Llanllechid; 1866, archddiacon Meirionnydd; 1888, rheithor Aber. Bu farw 24 Mai 1891. Yr oedd yn offeiriad diwyd mewn plwyf ac esgobaeth, yn ysgolhaig medrus, ac yn hynafiaethydd gwych. Ysgrifennodd ' Pentrefoelas ' (yn Cambrian Journal, 1854 ac 1855), ac ' Ysbytty Ifan and the Hospitallers ' (yn Archæologia Cambrensis, 1860).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd 4 Mawrth 1815; yn Tynycoed, Abererch; yr oedd ei fam, Ann Owen o'r Crafnant yn Llanfair Harlech, yn ddisgynnydd o Edmwnd Prys, a'i wraig, Mary, o Saethon, yn gyfnither i David Williams yr aelod seneddol. [Llythyr oddi wrth ei ŵyr, y Parch. C. Beverly Davies, Hammersmith ].
Dyddiad cyhoeddi: 1970