Ganwyd ym Mrycheiniog, ond nid oes wybodaeth am y lle na'r dyddiad, nac ychwaith am gwrs ei addysg fore. Graddiodd yn B.A. (Llundain) a Ph.D. (Heidelberg). Bu'n athro Hebraeg ac athroniaeth yng Ngholeg Cheshunt (Annibynwyr), o 1864 hyd 1867, ac o 1878 hyd ei farw sydyn (ar 14 Ionawr 1891) bu'n athro Hebraeg ac Almaeneg (Hebraeg a'r Hen Destament o 1887 ymlaen) yn New College, Llundain. Fe'i galwyd yn 'Barchedig' gyntaf yn adroddiad New College am 1879-80, ond ni roddir unrhyw wybodaeth am ei ordeinio. Ar adeg ei farw gweithiai ar esboniad ar y Salmau. Gyda W. F. Hurndall cyhoeddodd Pulpit Memorials , 1878.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd yng Nghribart, gogledd Brycheiniog. Ni wyddys ymhle y bu yn yr ysgol, ond dechreuodd bregethu yn eglwys Annibynnol Troedrhiwdalar. Graddiodd yn 1850 o goleg Coward yn Llundain, ac astudiodd wedyn yn Sgotland ac yn yr Almaen (Ph.D., Heidelburg, 1854). Ni chofnodir iddo gael ei ordeinio, ond o 1879 ymlaen gelwir ef yn 'Rev.' O 1864 hyd 1877 bu'n athro Hebraeg ac Athroniaeth yn Cheshunt, o 1878 hyd 1887 yn athro Hebraeg ac Almaeneg yn New College, Llundain, ac o 1887 yn athro Hebraeg a'r Hen Destament yno. Gyda W. F. Hurndell cyhoeddodd (1878) Pulpit Memorials, ac ar adeg ei farwolaeth yr oedd yn paratoi esboniad beirniadol ar y Salmau. Bu farw yn sydyn, 14 Ionawr 1891, a chladdwyd yn Hampstead ar y 19fed. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys nad oedd fawr a fynnai â Chymru - awgryma nodyn yn y Dysgedydd (1891, 79) iddo suro'n ddirfawr am na chafodd swydd yn athrofa Aberhonddu; ac y mae tystiolaeth na chredai mewn cadw'r Gymraeg yn fyw. Ond yr oedd o blaid addysg ganolradd ac uwchradd yng Nghymru. Yn Hydref 1878 etholwyd ef yn gydysgrifennydd (â Syr Lewis Morris) coleg Aberystwyth, ac ail-etholwyd ef i'r swydd yn Hydref 1881, ond ymddiswyddodd yn Chwefror 1884, eto gan barhau yn aelod o gyngor y coleg. Ymddengys mai gŵr go anhydrin oedd, a thystia llythyr ar y pryd i'w ymddiswyddiad gael ei dderbyn 'with alacrity'.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.